Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Cymraeg yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cymraeg
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Llongyfarchiadau mawr iawn i chi ar dderbyn cynnig i astudio yma ym Mhrifysgol Bangor.
Dr Elis Dafydd ydi fy enw i dwi'n Ddarlithydd yn adran y Cymraeg ag Astudiaethau Celtaidd.
Mi fysa dod yma i astudio'r Gymraeg efo ni yn ddewis ardderchog.
O ran swyddi a chyflogadwyedd yn y lle cyntaf mae'r sgiliau fyswch chi yn ei fagu a meithrin wrth astudio Cymraeg yn mynd i fod yn sylfaen ardderchog ar gyfer pa bynnag yrfa y byswch chi yn dewis dilyn ar ôl graddio.
Dwi wastad yn deud efo gradd yn y Gymraeg o Fangor mi fedrwch chi neud unrhyw beth yn ail hefyd mae o yn gwrs byddwch chi allai fod yn sicr fyddwch chi wrth eich bodd efo'r cwrs.
Mae'r dewis o fodiwlau sydd gennym yn eang ofnadwy yn rhai galwedigaethol, yn rhai llenyddol, ag rhai creadigol.
Mi gewch chi gyfle i ddilyn eich diddordebau, mi gewch chi gyfle i ddarganfod pethau, syniadau, llyfrau, llenyddiaeth newydd pethau fydd yn eich cyffroi a'ch ysbrydoli chi.
Ag yn olaf ac yn bwysig iawn hefyd da ni'n adran fach gartrefol, mae yna deimlad cryf o gymuned yma mae pawb yn nabod ei gilydd ac yn edrych ar ôl ei gilydd.
Os dewch chi yma i astudio Cymraeg ym Mangor i gewch chi sylw arbenigol a sylw unigol. Da ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi yn fuan.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Yr Athro Angharad Price
Wrth fy modd yn darllen ac astudio llenyddiaeth, a hefyd ysgrifennu'n greadigol.
Mae ysgrifennu creadigol yn broses o ddarganfod a gweld pethau o'r newydd, felly dydi'r gwaith bydd yn ddiflas nac yn ailadroddus. Mae'n antur bob tro.
Cael bod yng nghwmni'r myfyrwyr yn dysgu a siarad a chreu.
Mae 'na gymuned wych o fyfyrwyr o bob math ym Mangor ac mae'r Gymraeg yn rhan ganolog o holl fywyd y Brifysgol a'r ardal o'i chwmpas.
Dwi'n credu bod gan bawb y gallu i sgwennu'n greadigol. Mater o fynd amdani ydi hi. Mae'n broses o ddarganfod.Ìý

Yr Athro Jerry Hunter
Fel Americanwr, bu darganfod llenyddiaeth Gymraeg America yn agoriad llygad i mi: roedd yn anhygoel dysgu bod cymaint o lenyddiaeth Gymraeg wedi'i chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 19ganrif.
Mae'n ddiddorol iawn gweld sut mae'r traddodiad llenyddol Cymraeg wedi ymaddasu yn wyneb sawl her yn ystod ei hanes hir.
Mae astudio llenyddiaeth a dadansoddi iaith yn eich darparu â sgiliau gwych sy'n ddefnyddiol mewn nifer o gyd-destunau bob dydd - wrth ddatrys problemau neu wrth feddwl yn greadigol am unrhyw beth.
Manteisio'n llawn ar yr holl adnoddau - academaidd a chymdeithasol - sydd ar gael yn y Brifysgol. Yr un peth felly yw sicrhau'ch bod chi'n gwybod am yr holl bethau sydd ar gael i chi yma ym Mangor.
Cyffrous - Cyfoes - Cyfoethog.Ìý