Mae Prifysgol Bangor yn mynd ati i hyrwyddo’r defnydd o’i gwaith ymchwil. Gwneir hyn yn aml drwy drwyddedu ei heiddo deallusol i fusnesau a sefydliadau: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch drwy ebostio commercialisation@bangor.ac.uk
Mewn rhai achosion, gellir sefydlu cwmni newydd i fanteisio ar weithgareddau ymchwil, addysgu a throsglwyddo gwybodaeth y Brifysgol ac yn yr achos hwn mae'r eiddo deallusol wedi ei drwyddedu i'r cwmni newydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r Brifysgol wedi ysgogi sawl cwmni sydd ar wahanol lefelau o ddatblygu. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch drwy ebostioÌý ommercialisation@bangor.ac.uk
Prifysgol Bangor a'r Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio Prifysgolion
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r . Rydym wedi ymrwymo i feithrin arloesedd, entrepreneuriaeth a thwf economaidd drwy gwmnïau deillio’r brifysgol.
Yn unol ag argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio Prifysgolion, rydym yn mabwysiadu set o egwyddorion ac arferion sydd wedi'u cynllunio i uchafu effaith a llwyddiant ein gweithgarwch deillio, a hynny wrth gefnogi ein hymchwilwyr, myfyrwyr, a'r gymuned ehangach. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Dylunio a gwreiddio prosesau sy’n ystyrlon o arloesedd i gefnogi gweithgarwch deillio o ansawdd uchel.
- Sicrhau y caiff prosesau ac amserlenni ffurfio cwmnïau deillio eu cyfathrebu’n glir.
- Alinio dyraniad ecwiti â disgwyliadau’r sector, gyda thelerau penodol amrywiol, yn dibynnu ar y fargen fasnachol ehangach.
- Cydnabod a gwobrwyo aelodau staff sy'n defnyddio llwybrau masnachol i gael effaith trwy ymchwil.
- Cefnogi datblygiadau deillio trwy hyfforddiant, buddsoddiad mewnol, a gweithgarwch datblygu cyfleoedd.
Bydd Prifysgol Bangor yn parhau i adolygu ac addasu ei strategaeth, polisïau, a phrosesau o ran cwmnïau deillio, yn unol â chanllawiau cenedlaethol a chanllawiau’r sector.