Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu Polisi Iaith cynhwysfawr ac mae'n atebol i'r Safonau Iaith Gymraeg. Mae Canolfan Bedwyr yn cefnogi staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol i weithredu'r polisi ac i gydymffurfio â'r Safonau Iaith drwy gynnig arweiniad, cyngor a chymorth. Rydym hefyd yn cynnal ysgrifenyddiaeth ar gyfer pwyllgorau sy'n gyfrifol am gynnal trosolwg o'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Cewch rhagor o wybodaeth am ein Polisi Iaith Gymraeg a'n dyletswyddau o dan y Safonau Iaith Gymraeg drwy ddilyn y dolenni. Os oes gennych am weithrediad y Polisi Iaith Gymraeg a'r Safonau Iaith Gymraeg yn y Brifysgol, cysylltwch â ni.
Polisi Iaith
Canllaw Cyflym
Porwch ein canllaw cyflym i'ch helpu chi ddeall a gweithredu ein Polisi Iaith Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.