Byddwch wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol yn ystod y broses archebu ystafell ond cofiwch:Ìý
- Cwblhewch y modiwl iechyd a diogelwchÌý
- Trefnwch eich cynllun talu ar gyfer eich ystafellÌý
- Cyrhaeddwch ar yr amser yr ydych chi wedi ei archebu trwy'r system ar-lein
Gwiriwch ein gwefanÌýam fanylion llawn gan gynnwys pori drwy’r adran cwestiynau cyffredin.
Os nad ydych chi wedi archebu ystafell mewn neuadd breswyl eto, ond yr hoffech chi wneud hynny, e-bostiwch neuaddau@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382667 cyn gynted â phosibl.
Campws Byw

Ìý
Ymgartrefwch yn y neuaddau preswyl trwy ymuno â'n digwyddiadau Campws Byw.
Gweler ein rhestr o ddigwyddiadau yma.
Ìý
Ìý
Trwydded Parcio Myfyrwyr
Mae angen trwydded barcio ar unrhyw un sy'n dymuno parcio ym meysydd parcio'r brifysgol ym Mangor, Porthaethwy a Wrecsam.
Mae lleoedd parcio i fyfyrwyr ar gael ar draws yr ystad a chaiff trwyddedau parcio i fyfyrwyr eu dyrannu naill ai ar sail lle rydych chi’n byw neu lle rydych chi’n astudio.
Sylwch nad oes modd i fyfyrwyr barcio ym mhob un o feysydd parcio’r brifysgol.ÌýÌý
Os ydych yn ddeiliad bathodyn glas neu'n fyfyriwr ag anawsterau symud, anfonwch e-bost at Ymgynghorydd Gwasanaethau Anabledd yn yr adran Gwasanaethau MyfyrwyrÌýgwasanaethanabledd@bangor.ac.ukÌýi gael cyngor ar ba drwydded sydd ei hangen arnoch.
Nid yw’r ffaith bod trwydded wedi ei rhoi yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael i ddeiliad y drwydded.ÌýPan fyddwch yn gwneud cais am drwydded, byddwch yn cytuno i gadw at reoliadau parcio Prifysgol Bangor.ÌýGellir cosbi perchnogion cerbydau sydd wedi parcio mewn ardaloedd nad oes ganddynt hawl i barcio ynddynt.Ìý
Gwneud cais am Drwydded Parcio
Cofiwch sicrhau eich bod yn nodi eich cyfeiriad post llawn a'ch rhif cofrestru myfyriwr ar y cais.
Caniatewch saith diwrnod gwaith i ni brosesu eich cais.
Hyd nes bod y brifysgol yn cwblhau adolygiad o’r taliadau parcio, mae’r trwyddedau parcio i’w cael yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd. Trefniant dros dro yw hwn a bydd taliadau parcio yn cael eu hadfer yn y misoedd nesaf. Bydd manylion llawn yn cael eu rhannu gyda chi mewn da bryd.

Digwyddiadau’r Wythnos Groeso
Darganfyddwch pa ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Groeso.

Support and Welfare
Bangor has a wide range of support available should you need a little help or advice - either academic or to do with your wellbeing.