Îá°®³Ô¹Ï

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio yn Ysgol Busnes Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Marchnata yma yn Ysgol Busnes Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi. Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Marchnata

Mae ein cyrsiau Marchnata yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

O gystadlaethau cenedlaethol fel The Pitch a Universities Business Challenge Worldwide i leoliad gwaith a sgyrsiau gwadd mae digon o gyfleoedd fel myfyriwr marchnata i wella eich cyflogadwyedd ac ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich dyfodol.

Gwyliwch ein fideo

Wel yn gyntaf oll Llongyfarchiadau ar dderbyn cynnig i ddod atom ni i astudio yma ym Mhrifysgol Bangor.

Fy enw i ydi Steffan Thomas, ac rwy'n Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Busnes yn arbenigo yn y maes Marchnata.

Dwi'n edrych ymlaen at ddysgu chi ar nifer o fodiwlau fydd yn rhoi sgiliau i chi ar hyd eich amser

gyda ni yma ym Mangor ac wedyn ymlaen i'ch gyrfaoedd

wedi i chi raddio. Dwi'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi yn fuan.

Cwestiynau Cyffredin

Mewn wythnos arferol, byddwch yn mynd i 12 awr o ddosbarthiadau i gyfanswm o dri modiwl e.e. yn semester 1, blwyddyn 1 y BSc Marchnata mae'r dosbarthiadau'n cynnwys 4 awr o Sgiliau Marchnata Proffesiynol, 4 awr o Sylfeini Marchnata a 4 awr o Reolaeth a Menter. Cedwir prynhawniau dydd Mercher yn rhydd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasau myfyrwyr.

Byddwch yn cael 12 awr o addysgu yn y cnawd bob wythnos. Mae'r rhain yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Dylid treulio gweddill yr amser ar ddysgu hunangyfeiriedig/annibynnol h.y. darllen y bennod berthnasol yn y gwerslyfr marchnata i fodiwl penodol, gwneud ymchwil ar frand i aseiniad sydd i ddod, cymryd rhan mewn trafodaeth rithwir neu ddarllen astudiaeth achos i baratoi at diwtorial sydd ar ddod.

Bydd astudio un o’r rhaglenni gradd marchnata ym Mangor yn eich galluogi i ddatblygu i fod yn weithiwr marchnata proffesiynol rhagorol. Mae ein rhaglen BSc Marchnata wedi ei hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, sy'n eich galluogi i gael eithriadau awtomatig o amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol (e.e. Tystysgrif/Diploma mewn Marchnata Proffesiynol a Marchnata Digidol). Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau marchnata cenedlaethol fel CIM 'The Pitch' a byddwch yn ennill sgiliau ymarferol defnyddiol y mae cyflogwyr yn eu disgwyl, megis datblygu gwefannau. Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed amrywiaeth o siaradwyr gwadd o faes marchnata.

Mae'r pynciau a drafodir ar y radd marchnata yn cynnwys Marchnata Digidol, Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol, Ymddygiad Defnyddwyr, Rheoli Brand a Manwerthu, Marchnata a Chymdeithas, Marchnata Rhyngwladol a Dadansoddeg Marchnata. Mae holl ddeunyddiau'r modiwl yn cael eu diweddaru'n barhaus i adlewyrchu tueddiadau cyfredol, ymchwil cyfredol ac arferion yn y diwydiant.

Mae ein hasesiadau yn adlewyrchu sefyllfaoedd ac amgylchiadau marchnata go iawn. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau asesu i sicrhau y byddwch yn meistroli sgiliau busnes eang ac yn datblygu'r rhain wrth ichi astudio am eich gradd. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau ysgrifennu, cyfathrebu, rhwydweithio a gwneud penderfyniadau gan gynnwys traethodau, adroddiadau marchnad, cyflwyniadau, blogiau, arholiadau, portffolios a phrojectau grŵp. Rydym hefyd yn defnyddio gemau efelychu sydd gyda’r gorau yn y diwydiant i greu heriau marchnata sydd mor agos at realiti â phosib yn ogystal â darparu cyfleoedd dysgu yn y gwaith i chi, a chyfle i chi ymgymryd â phrojectau byw yn eich blwyddyn olaf.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Sara Parry

Dr Sara Parry

Dwi bob amser wedi ystyried Marchnata fel pwnc cyffrous a chyflym sy'n cynnig cyfleoedd i fod yn strategol ac yn greadigol. Yn bwysig, mae marchnata wedi'i seilio ar ddeall pobl (neu 'ddefnyddwyr') a'u hymddygiad, a dyna sy'n ddiddorol i mi.

Chanel sy’n gyfrifol am greu’r hysbyseb drytaf erioed yn 2004. Roedd yr hysbyseb yn cynnwys Nicole Kidman a chafodd ei chyfarwyddo gan Baz Luhrmann. $33 miliwn oedd y gost o’i chreu!

Dwi’n mwynhau addysgu gan ddefnyddio llawer o enghreifftiau o arferion Marchnata da a drwg, a chanolbwyntio ar y sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddilyn gyrfa mewn Marchnata megis cyfathrebu, creadigrwydd, gwaith tîm a meddwl yn feirniadol.

Taylor Swift. Mae hi’n gerddor gwych, a dwi hefyd yn meddwl ei bod yn athrylith Marchnata! Mae hi’n feistr ar ddeall a bodloni ei chynulleidfa: y “Swifties.â€

Cyflym - creadigol - strategol.

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.Ìý Ìý

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
Ìý

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYRÌý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Sgwrsiwch gyda darlithydd