Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Ieithoedd Modern yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Ieithoedd Modern
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Ìý
Helo a Llongyfarchiadau mawr am gael cynnig i astudio yma ym Mhrifysgol Bangor. Fy enw i yw Jonathan Ervine.
Dwi'n darlithio mewn Ieithoedd Modern. Mae'n ardal hyfryd i astudio fel myfyriwr Ieithoedd Modern mae gennych gyfleon i ddysgu llawer am ieithoedd a ble mae pobl yn siarad yr ieithoedd da chi yn astudio. Rydym yn defnyddio lot o adnoddau modern iawn.
Mae gennych gyfleoedd i gwrdd â staff a myfyrwyr yn rheolaidd iawn, mewn ardal ag adran gyfeillgar. Rydym wir yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Fangor yn fuan.
Cwestiynau Cyffredin
Pan fyddwch chi'n astudio ieithoedd, mae gennych chi wersi iaith sy'n canolbwyntion ar sgiliau fel siarad, ysgrifennu a chyfieithu. Hefyd, mae llawer o'n myfyrwyr yn astudio modiwlau diwylliannol am sinema, llenyddiaeth a hanes gwledydd lle mae pobl yn siarad yr ieithoedd perthnasol. Tu allan o'r dosbarth, mae yn gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffroes sy'n gysylltiedig ag ieithoedd ac yn rhoi cyfle i chi ddod i nabod myfyrwyr eraill.
Fel arfer, mae gan fyfyrwyr ieithoedd modern tua 9-12 awr o wersi bob wythnos. Mae yna ddarlithoedd a seminarau ag rydym yn gwneud y rhan fwyaf y dysgu mewn grwpiau bychain sy'n helpu i greu deialog rhwng myfyrwyr a staff ac yn rhoi cyfle i chi gofyn cwestiynau a chael adborth.
Ar fodiwlau Iaith, yn aml iawn mae yna arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd y semester a hefyd aseiniadau eraill yn ystod y semester (cyflwyniadau, profion gramadeg, aseiniadau gwaith cartref). Ar fodiwlau diwylliannol, fel arfer bydd yna draethodau, gyflwyniadau, ac aseiniadau eraill yn ystod y semester.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr
Dr Sarah Pogoda
Rydym yn gymuned yma ym Mangor, ac rydym yn byw hynny bob dydd. Mae myfyrwyr a staff yn adnabod ei gilydd yn dda, oherwydd ein bod ni - o gymharu â phrifysgolion eraill - yn adran gweddol fach. Rydym yn dysgu mewn grwpiau bach (sy’n arbennig o wir ar gyfer dosbarthiadau iaith) sy'n ein galluogi i wir adnabod pob myfyriwr, gwrando ar sut maen nhw’n hoffi dysgu ac addasu sut rydym ni’n dysgu i gyd-fynd â hynny. Mae gennym ni hefyd agwedd greadigol iawn at ddysgu ym Mangor, ac mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol (e.e. trefnu a chynnal arddangosfa). Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, rydym yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol hwyliog a chynhwysol, sy’n ein galluogi i ddod i adnabod ein gilydd hyd yn oed yn well.Ìý
Galluogi pobl i gysylltu â phobl ar draws y byd, gan gyfoethogi eu profiad a'u rhagolygon trwy ddysgu sut y gallan nhw lunio eu dyfodol eu hunain trwy siarad sawl iaith a gweld gwir amrywiaeth diwylliannau. Mae astudio iaith a diwylliannau modern rywsut yn golygu plymio i isddiwylliant. Rydych chi'n dysgu am bobl, hanes, y celfyddydau a hyd yn oed economeg nad oes ond ychydig o bobl yn gwybod amdanynt yn y Deyrnas Unedig. Gyda'r wybodaeth hon a'r holl sgiliau grymuso rydych chi'n eu hennill gyda gradd mewn Ieithoedd a Diwylliannau Modern, rydych chi'n arfogi'ch hun i ddilyn bywyd unigryw a hynod sydd prin yn hygyrch i bobl eraill.Ìý
Mae fy mywyd yn amlieithog, bob dydd. Rwy’n defnyddio Almaeneg, Saesneg a Chymraeg drwy’r dydd mewn sefyllfaoedd amrywiol, yn y gwaith neu y tu allan i’r gwaith. Rwy'n ceisio siarad yr iaith y mae'n well gan y person rwy'n siarad â nhw ei defnyddio. Gan fy mod yn ymwybodol bod y ffordd yr wyf yn gweld y byd wedi ei ffurfio gan fy mynediad at wahanol ddiwylliannau a safbwyntiau byd-eang, rwy'n cadw meddwl agored wrth gwrdd â phobl ac yn dysgu am eu gwerthoedd a'u dewisiadau bywyd. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ganfod safbwyntiau a chyfleoedd newydd, dro ar ôl tro, gan fy ngwneud yn berson hapusach.Ìý
Does dim angen i chi ddeall popeth bob amser.Ìý