Llongyfarchiadau ar eich cynnig o le ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar dderbyn eich cynnig i astudio gyda ni! Cynlluniwyd y dudalen hon i'ch helpu i archwilio'r hyn sydd gan Fangor i'w gynnig - o'n cyfleusterau o'r radd flaenaf i gyfleoedd ar gyfer profiad ymarferol. Wrth i chi ystyried eich opsiynau, edrychwch yn agosach ar yr hyn sy'n gwneud astudio yma yn ddewis unigryw a gwerth chweil.
Oeddech chi'n gwybod?
Gan fod gan y Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg flwyddyn gyntaf gyffredin mae gennych yr hyblygrwydd i newid cyrsiau o'r ail flwyddyn ymlaen. Gall fod yn anodd gwybod cyn i chi ddechrau pa feysydd yn y gwyddorau meddygol fydd fwyaf diddorol i chi, felly mae hyn yn golygu bod gennych chi gyfle i ddarganfod hyn yn ystod blwyddyn un.
Mae ein hachrediad IBMS ar gyfer ein rhaglen Gwyddor Biofeddygol yn eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith cyflym a diddorol labordy patholeg modern gyda disgyblaethau'n amrywio o drefnu trallwysiadau gwaed i ganfod heintiau firaol mewn cleifion.
Mae ein gradd Gwyddorau Meddygol yn llwybr i’n rhaglen Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion ar gyfer y rhai sy’n graddio gydag o leiaf 2:1. Sylwch fod gofynion mynediad ychwanegol hefyd yn berthnasol.
Mae hyfforddiant ymarferol yn adeiladu eich sgiliau mewn meysydd fel geneteg, microbioleg, a mecanweithiau afiechyd, gan eich paratoi ar gyfer llwybrau gyrfa amrywiol.
Helo, pawb a llongyfarchiadau i chi ar dderbyn cynnig i ddod yma i Brifysgol Bangor ata ni.
Fy enw i ydy Dr Dylan WynJones a dwi yn arweinwyr ar y cwrs Gwyddorau Biofeddygol ac yn dysgu mwy eang ar gwahanol raglenni o fewn yr ysgol.
Diolch yn fawr iawn am considro (ystyried) ni yn fyma yn Bangor fatha safle eich gradd am y rhai blynyddoedd nesa yma.
Dwi'n gyffyrddus iawn yn gwybod fyddwch chi yn mwynhau eich hun dros y blynyddoedd nesa yma, o ran elfennau cymdeithasol a hydyn oed yr elfennau dysgu ac addysgu hefyd.
Rwan pan fyddech chi wedi dod i'r Brifysgol dwi'n edrych ymlaen i gael croesawu chi mewn person a be fyddan ni'nwneud yn yr wythnosau cynta o'r flwyddyn academaidd newydd ydi mynd drost bob un o'r modiwlau gwahanol efo chi,so bod chi'n gwybod yn union be fydd eu cynnwys nhw a sut maen nhw'n cael ei asesu.
Un o'r pethau a wnawn ni drafod efo chi pan dych chi'n ymuno efo ni ydi os oes gennych chi ddiddordeb un astudio rhywfaint o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yma dan ni'n cynnig nifer o fodiwlau ar hyd parhâd eich gradd chi drwy gyfrwng y Gymraeg a os fyd hynna rhywbethsydd â diddordeb i chi plis dewch ataf fi yn wythnos groeso a fyddai i mwy na hapus i drafod o efo chi.
Llongyfarchiadau am dderbyn cynnig a dwi'n edrych ymlaen i groesawu chi yn ein Wythnos Croeso.
Dilynwch ni ar Cyfryngau Cymdeithasol
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael cipolwg ar fywyd ym Mangor - straeon myfyrwyr, digwyddiadau campws, a phopeth sy'n gwneud astudio yma yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn unigryw!
Sgwrsio â Myfyrwyr a Staff yn y Gwyddorau Meddygol
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau Meddygol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau Meddygol llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau Meddygol ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau Meddygol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ever wondered what a lab practical is ACTUALLY like? 🥼 Have a peek at our first year students from Medical Sciences, Biomedical Science and Pharmacology undertaking an investigation practical using mushrooms 🍄 Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw ymarferol labordy? 🥼 Cyfle i gael cipolwg ar ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf o'r Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg yn cynnal ymchwiliad ymarferol gan ddefnyddio madarch 🍄
Cwrdd â'r darlithwyr
Os dewiswch astudio gyda ni ym Mangor byddwch yn cael eich dysgu gan bobl sy'n angerddol am eu pynciau. Isod gallwch ddod i adnabod rhai o'r darlithwyr allweddol a fydd yn rhan o flynyddoedd cyntaf eich gradd.