Îá°®³Ô¹Ï

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio yn Ysgol Busnes Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Economeg yma yn Ysgol Busnes Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi. Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill.Ìý

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Economeg

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Yma yn Ysgol Busnes Bangor, mae gennym fynediad i rai o'r cronfeydd data gorau gan gynnwys Bloomberg. Mae caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r cronfeydd data hyn fel rhan o'u cwrs nid yn unig yn gwella eu profiad dysgu ond hefyd yn eu paratoi'n well ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Gwyliwch ein fideo

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i ddod i Brifysgol Bangor i astudio Economeg. Rhys ap Gwilym ydw i ac rwy'n ddarlithydd mewn Economeg.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael cwrdd â chi pryd da chi yn cyrraedd yma yn y ddinas odidog, dwi'n siŵr fydd y tywydd fel yma am yr holl dair blynedd rydych chi efo ni.

Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at eich dysgu chi yn y flwyddyn gyntaf rhai o elfennau sylfaenol Economeg a wedyn datblygu eich dealltwriaeth o'r pwnc yn ystod y tair blynedd.

Edrych ymlaen yn fawr iawn at eich gweld chi a gobeithio eich bod yn gyffrous am y cyfle sydd o'ch blaen.

Cwrdd rhai o'ch darlithwyr

Dr Edward Jones

Dr Edward Jones

Bod safbwyntiau gwahanol o hyd ynghylch y ffordd orau o ddatblygu’r economi a sicrhau ei bod o fudd i bawb.

Bu gennyf ddiddordeb erioed mewn marchnadoedd. Pan oeddwn i'n blentyn byddwn yn mynd i'r farchnad da byw leol gyda fy nhad ac yn rhyfeddu at y ffordd y cai prisiau eu pennu gan gyflenwad a galw. Yna dechreuais ymddiddori mewn mathau eraill o farchnadoedd (e.e. stociau, bondiau) ac roedd economeg yn bwnc naturiol i mi ei astudio.

Fy hoff beth am economeg yw ei fod wastad yn y newyddion ac yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Mae hyn yn caniatáu i mi gael trafodaeth wych gyda fy myfyrwyr ynghylch sut mae'r gwaith damcaniaethol rydym ni'n ei ddysgu yn y dosbarth yn ymwneud â digwyddiadau cyfoes.

Y cyfle i ddysgu gan fy nghydweithwyr (a myfyrwyr!) ac amgylchedd sy'n annog datblygu dysg newydd sy'n berthnasol i'r byd go iawn.

Pobl - Busnesau - Llywodraethau

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.Ìý Ìý

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
Ìý

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYRÌý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Sgwrsiwch gyda darlithydd