Îá°®³Ô¹Ï

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Cerddoriaeth yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cerddoriaeth

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Helo, a Llongyfarchiadau mawr iawn ar gael cynnig lle i astudio Cerddoriaeth yma ym Mangor. Stephen Rees yw fy enw i ac rwy'n ddarlithydd Cerdd yma.

Rwy'n edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned gerddorol ni. Cymuned sy'n cynnwys Cerddolegwyr, Perfformwyr a Chyfansoddwyr.

Mae pawb yma yn cydweithio yn agos gyda'u gilydd y myfyrwyr a'r staff. A nod ni fel staff ydi'ch helpu chi fel cerddor i gyflawni eich potensial yn llawn. Felly edrychaf ymlaen at gwrdd â chi yn fuan!

Cwestiynau Cyffredin

Bydd wythnos nodweddiadol yn cynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymarferion gyda'ch cyd-fyfyrwyr a'ch darlithwyr. Weithiau, byddwch yn cael tasgau i'w paratoi cyn sesiynau, cyfarfodydd annibynnol a chyfarfodydd grŵp i rannu a pharatoi syniadau tuag at eich astudiaethau.

Hefyd, cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, megis bod yn rhan o’r Gymdeithas Gerdd, ac amrywiaeth eang o ensembles cerddorol, fel corau a cherddorfa'r Brifysgol.

Byddwch fel arfer yn gwneud tri modiwl 20 credyd ym mhob semester. Ar gyfer pob modiwl, byddwch yn cael hyd at 3 awr o oriau cyswllt yr wythnos (yn cynnwys darlithoedd, gweithdai, tiwtorialau a seminarau). Rhwng y sesiynau hyn, byddwch yn gwneud gwaith annibynnol, paratoi ar gyfer eich aseiniadau, mynychu cyfarfodydd grwp gyda’ch cyd-fyfyrwyr, a mynychu gweithgareddau cerddorol amrywiol e.e. ymarferion, a chyngherddau cerddorol.

Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae’r adeilad Cerddoriaeth wedi elwa o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar, yn ogystal â’n Stiwdios Cerddoriaeth Electronig. Yn yr adeilad Cerddoriaeth, mae ein prif neuadd ddarlithio (gyda phiano cyngerdd Steinway newydd) sy’n lleoliad delfrydol ar gyfer datganiadau ac ymarferion. Mae gennym hefyd ddwy neuadd gyngerdd arall â chyfarpar proffesiynol, gyda phianos cyngerdd Steinway newydd hefyd. Cynhelir cyfres fywiog o ddatganiadau a chyngherddau o bob math o gerddoriaeth yma ac yn Pontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi'r brifysgol.

Mae creu cerddoriaeth gydag eraill yn rhan annatod o brofiad gradd mewn cerddoriaeth. Gallwch ddewis astudio perfformiad unigol ar eich prif offeryn neu lais, ond mae opsiynau hefyd i berfformio mewn ensembles fel rhan o'ch cwrs.

Y tu allan i’r rhaglenni gradd, mae amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, boed mewn ensembles a gynhelir gan y brifysgol (Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor; Corws y Brifysgol; Côr Siambr) neu yn y grwpiau niferus gaiff eu cynnal gan fyfyrwyr, yn cynnwys Cerddorfa a Chôr y Gymdeithas Gerddoriaeth, y Band Cyngerdd, y Band Pres, y Band Jas a'r Gerddorfa Linynnol.

Cwrdd â'r tîm addysgu

Kiefer David Jones

Kiefer David Jones

Sut mae'r llais yn gweithio, ei swyddogaethau a'i alluoedd.

Fy mrwdfrydedd dros y repertoire gwych sydd gennym mewn cerddoriaeth leisiol a’r cyfle i gyflwyno addysg dechnegol i ddarpar gantorion.

Peidio byth â cholli golwg ar y darlun ehangach, a gweithio ychydig bob dydd (gan gymryd camau bach) i gyrraedd y nod.

Effaith y tafod ar ganu - anferth!

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.Ìý Ìý

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn rhoi sicrwydd o ystafell mewn llety Prifysgol i ymgeiswyr o'r DU/Iwerddon am flwyddyn gyntaf o'u gradd israddedig. Rhaid eich bod yn dal Bangor fel eich dewis Cadarn, â'ch bod yn mynychu cwrs ar y campws ym Mangor, yn cychwyn y cwrs ym mis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddem yn eich e-bostio pan fydd hi'n amser gwneud cais a byddwch yn gallu dewis eich ystafell trwy ein system archebu.

Darganfod EICH ystafell berffaith

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
Ìý

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYRÌý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Sgwrsiwch gyda darlithydd