Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni roseddeg aÌýAthroniaeth, Moeseg a Chrefydd yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.
Gwyliwch ein fideo
Helo Dr Gareth Evans-Jones ydw i a dwi'n Ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd yma ym Mhrifysgol Bangor, ac mae'n wych clywed eich bod chi wedi cael cynnig i ddod astudio i Brifysgol Bangor, yn enwedig Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd.
Mae'r cwrs yma ym Mangor yn unigryw lle mae modd i chi deilwra eich diddordebau i'ch cynlluniau gradd.
Da ni'n cynnig bob math o fodiwlau ynglŷn â moeseg, yn edrych ar foeseg normadol a chynhwysol.
Mae yna bob math o grefyddau yn cael eu hastudio oÌýHindŵaidd, Cristnogaeth, Bwdïaeth, Jediaeth, Derwyddiaeth, Gwrachyddiaeth hyd yn oed, a hefyd mae modd mynd ar ôl sawl agwedd Athronyddol.
Os da chi yn hoff o Plato neu Aristoteles neu ffansi Athronwyr mwy diweddar.
Rydym yn mynd ar ôl ystod eang iawn o Athronwyr, a'r gobaith ydi fyddwch yn datblygu arbenigedd yn y meysydd hyn, ond hefyd yn datblygu siliau gwerthfawr fyddwch yn medru mynd efo chi i'r byd gwaith maes o law.
Felly Llongyfarchiadau eto i chi ar gael cynnig a gobeithio wir y gwelwn ni chi yn fuan.
Cwestiynau Cyffredin
Mewn wythnos arferol, mae ein myfyrwyr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn mynychu darlithoedd a seminarau sy'n mynd i'r afael â materion y byd go iawn ym mhob disgyblaeth. Mae sesiynau Athroniaeth yn mynd i'r afael â chwestiynau sy’n ymwneud â rhyddid, hunaniaeth bersonol a chyfiawnder; mae dosbarthiadau moeseg yn archwilio pynciau megis cyfrifoldeb amgylcheddol, hawliau dynol a moeseg feddygol, gan gynnwys gofal diwedd oes; ac mae darlithoedd crefydd yn archwilio sut mae gwahanol grefyddau’n ymdrin â chyfiawnder cymdeithasol, datrys gwrthdaro a lles cymunedol. O foeseg deallusrwydd artiffisial i safbwyntiau crefyddol ar ddatblygu heddwch, bydd myfyrwyr yn meithrin y sgiliau i ymgysylltu'n feddylgar â heriau byd-eang cymhleth ac yn dysgu am y rôl y mae'r disgyblaethau hyn yn ei chwarae wrth siapio’r byd.
Rhennir pob blwyddyn academaidd yn ddau semester, gyda myfyrwyr fel arfer yn cymryd tri modiwl y semester. Byddwch yn mynychu dwy ddarlith ac un seminar fesul modiwl bob wythnos sydd yn golygu tua 8-12 awr cyswllt. Mae darlithoedd yn ymdrin â phynciau allweddol megis cyfyng-gyngor moesegol, damcaniaethau athronyddol a safbwyntiau crefyddol. Mae seminarau yn cynnig cyfle i drafod syniadau, dadansoddi materion y byd go iawn, a chymryd rhan mewn trafodaethau grŵp. Yn ogystal, gallwch drefnu tiwtorialau ychwanegol a chyfarfodydd goruchwylio er mwyn cael cefnogaeth bersonol neu i archwilio pynciau yn fanylach, gan eich helpu i gymhwyso damcaniaethau i ddigwyddiadau cyfredol a mireinio eich sgiliau meddwl beirniadol.
Mae graddedigion Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn dilyn amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous ac amrywiol. Mae llawer yn dod yn addysgwyr, yn addysgu mewn ysgolion neu brifysgolion, tra bod eraill yn gweithio ym meysydd y gyfraith, hawliau dynol neu'r sector cyhoeddus, gan eirioli dros newid cymdeithasol. Mae gyrfaoedd mewn gofal iechyd, lle maent yn darparu arweiniad moesegol, hefyd yn gyffredin, yn ogystal â swyddi yn y cyfryngau, cyhoeddi a newyddiaduraeth, lle maent yn cyfleu syniadau cymhleth. Mae rhai graddedigion yn gweithio ym myd busnes, y llywodraeth neu gwnsela, gan ddefnyddio eu sgiliau meddwl beirniadol a moesegol i ddylanwadu ar bolisi, cefnogi unigolion, a mynd i'r afael â heriau cymdeithasol.
Mae gradd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn helpu i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau meddwl beirniadol, gan ddysgu sut i ddadansoddi dadleuon cymhleth ac asesu gwahanol safbwyntiau. Byddant yn gwella eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, trwy draethodau, cyflwyniadau a thrafodaethau. Mae'r radd hefyd yn meithrin galluoedd datrys problemau, wrth i fyfyrwyr ystyried cyfyng-gyngor moesegol a chwestiynau athronyddol. Mae sgiliau ymchwil yn cael eu mireinio trwy astudio annibynnol ac ymholi academaidd. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau empathi, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a sgiliau gwneud penderfyniadau moesegol, sydd i gyd yn werthfawr mewn gyrfaoedd amrywiol ar draws sectorau.
Mae ein gradd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn cynnig hyblygrwydd unigryw, gan ganiatáu i fyfyrwyr arbenigo mewn Athroniaeth, Moeseg, neu Grefydd, neu gadw cymysgedd o'r tri pwnc. Mae'r rhaglen yn cynnwys sgyrsiau am Llofruddion Cyfresol, lle bydd myfyrwyr yn archwilio damcaniaethau moesegol ac athronyddol gan ddefnyddio achosion o fywyd go iawn. Byddwch yn sefydlu melinau trafod i fynd i'r afael â materion cyfoes megis biofoeseg a chyfiawnder cymdeithasol. Byddwch yn ymchwilio i agweddau crefyddol, seicolegol a moesegol yr ymarfer. Mae asesu yn seiliedig ar aseiniadau amrywiol yn hytrach nag arholiadau, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn meddwl beirniadol a chyfathrebu.
Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr
Dr Gareth Evans-Jones
Mae Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn annatod i brofiadau dynol, mewn gwahanol ffyrdd, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae syniadau athronyddol, daliadau moesegol, ac arddeliad crefyddol yn gallu effeithio ar ymddygiad pobl a natur cymdeithas.
Mae'n anodd dweud yn union beth ydir 'peth mwyaf diddorol' oherwydd mae yna gymaint o bethau diddorol ac amrywiol. Dwi wir yn ei gyfri'n fraint enfawr gallu darlithio am feysydd mor amrywiol, o Baganiaeth i Athroniaeth yr Oesoedd Canol, o foeseg ymddygiad i grefydd, gwrthdaro a heddwch, i amgylcheddaeth, Iesu mewn diwylliant poblogaidd, a Dyneiddiaeth.
Mae yna wastad bethau newydd i'w dysgu. Boed yn darlithio am Plato neu'r Beibl neu foeseg amgylcheddol, mae yna syniadau newydd yn codi drwy'r amser, a gwahanol ffyrdd o ddehongli, deall, a gweithredu. Does yna ddim 'sell-by-date' ar Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd!Ìý
Yn achos athroniaeth, un cwestiwn sy'n codi droeon ydi, 'beth ydi athroniaeth?' Ac mae hynny, mewn difri, yn gwestiwn athronyddol. Mae athroniaeth yn hanfodol i bob dim yn y byd - lle bynnag mae yna gwestiwn, neu syniad newydd, neu herio yn digwydd, mae athroniaeth ar waith - ac mae'n sail i bob un maes arall: mae meddygaeth yn gofyn am asesu, dadansoddi a phrofi damcaniaethau; mae busnes yn gofyn am bwyso a mesur, datblygu dulliau gweithredu; mae'r celfyddydau yn gofyn am effaith cyflwyno syniadau mewn ffyrdd penodol ar gynulleidfaoedd, i enwi tri maes yn unig.
Yn achos crefydd, mae astudio crefyddau'r byd mor bwysig - y crefyddau mwyaf a'r rhai sydd wedi para'n hir a'r crefyddau llai, ynghyd a'r rhai sy'n tyfu ar hyn o bryd. Mae gwneud hynny'n bwysig er mwyn deall amrywiaeth ddiwylliannol a safbwyntiol mewn cymdeithas, a datblygu ymagwedd fwy goddefgar. Wrth astudio crefydd, mae yna lwythi o swyddi ar gael, gan gynnwys mewn urddau crefyddol, y byd addysg, gwaith elusennol, adnoddau dynol, busnes, marchnata, economeg, y celfyddydau, gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth, a nifer eraill.