Yr Athro Fran Garrad-Cole
Beth achosodd i chi fod eisiau astudio Seicoleg?
Dwi’n cofio cael fy nghyfareddu’n llwyr gan y gwahanol ffyrdd yr oedd pobl yn gweld y byd ffisegol, a sut oeddynt yn rhyngweithio’n gymdeithasol o fewn y byd hwnnw. Dwi’n cofio bod ar fy ffordd adref o'r ysgol a meddwl tybed a oedd pawb yn gweld gwyrdd, er enghraifft, yn yr un ffordd, ac os na, sut fyddech chi'n disgrifio lliw heb ddefnyddio lliw?! Yn ddiweddarach, des i ddeall fod y mathau hyn o gwestiynau’n cael eu cwmpasu o fewn seicoleg niwro wybyddol.
Oes gennych chi hoff ffaith am yr ymennydd neu ffenomen seicolegol sydd bob amser yn syfrdanu pobl?
Gall unigolion sydd wedi colli braich neu goes dal ‘deimlo' eu braich neu goes goll. Mae syndrom ‘rhithaelod’ yn disgrifio’r ffenomen lle, pan fydd braich neu goes yn cael ei dorri i ffwrdd, mae ei gynrychioliaeth yn homoncwlws yr ymennydd yn cael ei drosysgrifennu a’i oresgyn gan rannau eraill o’r corff, ac felly gellir dal dei
mlo teimlad ‘yn’ neu ‘gan’ y fraich neu goes goll.
Sut ydych chi'n cymhwyso'r hyn yr ydych yn ei ddysgu mewn bywyd bob dydd?
Marathon yw hi, nid sbrint! Pan fydd gennym nod neu her fawr o'n blaenau, mae'n hawdd cael ein llethu gan bwysigrwydd y diweddbwynt. Gall hyn yn aml ein hatal rhag cychwyn ar ein taith tuag at y nod hwnnw, neu ein rhwystro pan nad yw'r llwybr at y nod yn llyfn. Drwy ganolbwyntio ar y cam bach, uniongyrchol o'n blaenau, gallwn barhau i wneud cynnydd cyson ac ystyrlon tuag at ein nod.
Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch yn ystod eich taith academaidd?
'Gwnewch, bob dydd, nes eich bod wedi gwneud.’ Roedd hyn mewn perthynas â chamau olaf ysgrifennu fy PhD. Weithiau, mae'n rhaid i chi fwrw ymlaen â’r gwaith!
Pe gallech chi gael swper gydag unrhyw seicolegydd enwog, ddoe neu heddiw, pwy fyddai hwnnw/honno a pham?
Yr Athro David Nutt. Mae'n ymgysylltu mewn ymchwil hynod ddiddorol am y ffordd y mae cyffuriau'n effeithio ar yr ymennydd. Ers gwawr amser, mae bodau dynol, ar draws pob diwylliant, wedi bod yn cymryd sylweddau sy’n newid yr ymennydd. O archwilio’r meddwl yn hynafol a/neu’n ysbrydol, i batrymau yfed alcohol sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y byd gorllewinol, mae diddordeb ar y cyd mewn ymddygiadau o’r fath, ac mae effaith y rhain o ddiddordeb mawr i mi ar lefel wybyddol ac ysbrydol.
Oes yna 'fyth' cyffredin am Seicoleg yr ydych yn aml yn ei gywiro?
Bod seicolegwyr yn gallu darllen eich meddwl!! Mae’n mynd ar fy nerfau i, pan mae rhywun yn clywed eich bod yn astudio, neu'n gweithio mewn, seicoleg. Mae pobl yn dechrau poeni eich bod yn eu seicdreiddio. Mae seicoleg yn faes helaeth o astudio'r ymennydd a'r meddwl, ac mae seicdreiddiad yn arbenigedd o fewn rhan fach iawn o hynny.
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Adran gynnes, gefnogol!
Yr Athro Guillaume Thierry
Beth achosodd i chi fod eisiau astudio Seicoleg?
Dim byd - wnes i erioed 'astudio' Seicoleg! Roedd fy llwybr at seicoleg yn antur droellog, gwbl annisgwyl, gan ddechrau yn y maes bioleg, a gweithio trwy ffisioleg, niwroffisioleg, niwroseicoleg, a niwrowyddoniaeth wybyddol, wel... a seicoleg, oherwydd ar ôl 24 mlynedd o ymarfer, dwi wedi dod yn eithaf cyfarwydd â seicoleg, o’r diwedd!
Beth yw'r arbrawf neu astudiaeth fwyaf cyfareddol i chi erioed weithio arno neu ddysgu amdano?Waw - sut alla i ddewis? Mae'n debyg fod darganfod bod y geiriau yr ydych yn eu defnyddio mewn iaith benodol yn newid y ffordd yr ydych yn gweld y byd (megis lliwiau a gwrthrychau) yn syfrdanol. Ond hefyd roedd y ffaith bod pobl ddwyieithog yn troi at eu hiaith frodorol yn gyson wrth ddarllen neu wrando ar leferydd yn eu hail iaith hefyd yn rhyfeddol. Ac felly hefyd y sylweddoliad y gall babanod ddysgu gwahaniaethu rhwng seiniau iaith cynnil iawn, ar yr union ddiwrnod y cânt eu geni. Ac eto, y ffaith y gall oedolion mabwysiedig rhyngwladol wahaniaethu o hyd rhwng ffonemau nad oeddynt wedi’u clywed ers iddynt fod yn 12 mis oed, pan nad ydynt yn siarad nac yn deall eu hiaith frodorol...
Pe gallech chi gael swper gydag unrhyw seicolegydd enwog, ddoe neu heddiw, pwy fyddai hwnnw/honno a pham?
Freud yn bendant. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn tynnu’r llinell rhwng athrylith a deliriwm drwy wrando arno. Ond wedyn mae’n debyg Luria, am brofi athrylith pur, ac efallai Oliver Sacks (dylwn i fod wedi neidio ar yr achlysur pan roddodd ddarlith gyhoeddus ym Mangor!).
Oes yna 'fyth' cyffredin am Seicoleg yr ydych yn aml yn ei gywiro?
Waw mae cymaint - Un o fy hoff fythau yw'r syniad ein bod yn defnyddio dim ond 10% o'n hymennydd (mae hynny'n hanner gwir ond nid mewn ffordd mor syml â hyn: rydyn ni'n defnyddio tua 10% ar unrhyw un adeg, ond mae pa 10% yn newid trwy'r amser, felly rydyn ni'n ei ddefnyddio i gyd!)
Oes gennych chi hoff ffaith am yr ymennydd neu ffenomen seicolegol sydd bob amser yn syfrdanu pobl?Mae angen i chi fynychu fy narlith ragarweiniol, Yr Ymennydd a'r Meddwl! Mae cof dynol, yn ei hanfod, yn ddiddiwedd (gallwch ei hyfforddi i ddysgu mwy, ni allwch lenwi'r gofod).
Oes yna unrhyw beth yr hoffech fod wedi gwybod pan oeddech yn penderfynu beth i'w astudio?
Bod seicopathiaid yn bodoli. Bod emosiynau’n gyrru ein meddwl (pan nad ydych yn seicopath). Na allwn ddeall rheswm dynol (rydym yn gwybod eu bod yn rhesymu, ond nid ydym yn gwybod sut).
Sut ydych chi'n cymhwyso'r hyn yr ydych yn ei ddysgu mewn bywyd bob dydd?
Peidiwch ag yfed a gyrru, peidiwch â chymryd cyffuriau (jest peidiwch), peidiwch â brifo'ch ymennydd (gwisgwch helmed), dylech ysgogi babanod oherwydd eu bod yn sbyngau deallusrwydd...
Beth yw’r peth rhyfeddaf neu fwyaf annisgwyl yr ydych wedi’i ddysgu drwy eich ymchwil?
Bod telepathi’n bodoli... Ydy, wir!
Beth yw rhai o'r cyfleoedd gyrfa cŵl mewn Seicoleg efallai na fydd myfyrwyr yn gwybod amdanynt?
Dylunydd bwyd.
Pe gallech chi ddysgu cysyniad Seicoleg i unrhyw un yn y byd, pwy fyddai hwnnw a beth fyddech chi'n ei ddysgu iddyn nhw?Elon Musk, allgaredd a charedigrwydd (ond gallai fod yn amhosibl o ystyried nad yw empathi’n rhywbeth y gellir ei ddysgu)
Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch yn ystod eich taith academaidd?
Peidiwch â chwythu plwc.
Sut mae Seicoleg yn ein helpu i ddeall tueddiadau cyfredol mewn cymdeithas neu gyfryngau cymdeithasol?
Mae hyn yn gofyn am bum tudalen o ateb - sori. Ond mae pethau megis credu newyddion ffug, tuedd cadarnhad, rhychwant sylwgarwch, orludded gwybyddol, effeithiau ffasiwn, ac ati...
Beth yw eich hoff ran am ddysgu Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor?
Y cyfan, ond dwi wrth fy modd yn addysgu anatomeg yr ymennydd a chysylltiadau rhwng yr ymennydd a’r meddwl.
Oes gennych chi unrhyw straeon cofiadwy o weithio gyda myfyrwyr neu yn eich ymchwil?
WAW - lle mae dechrau? Cafodd papur cyntaf un o'm myfyrwyr israddedig cyntaf ei adolygu yn Nature Neuroscience. Pe byddai’r darn wedi’i gynnwys, byddai wedi cael swydd cyn cael gradd meistr (yn y diwedd, ef oedd yr athro ieuengaf erioed i gael ei benodi yn Tsieina, sydd ddim yn ddrwg).
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Dyrchafol - Dynol - Ysbrydoledig.
Dr Alex Baxendale
Beth achosodd i chi fod eisiau astudio Seicoleg?
Cefais fy magu o gwmpas pobl a oedd ag anawsterau iechyd meddwl, megis fy llys-dad a oedd yn dioddef o sgitsoffrenia. Roeddwn bob amser eisiau deall beth oedd yn achosi hyn i bobl, a sut y gallwn eu helpu.
Pe gallech chi gael swper gydag unrhyw seicolegydd enwog, ddoe neu heddiw, pwy fyddai hwnnw/honno a pham?
Byddwn wrth fy modd yn cael sgwrs gyda rhai o'r seicolegwyr mwyaf dadleuol, er mwyn dod i ddeall o ble y daeth eu syniadau a'u persbectif. Efallai y gallai Freud egluro ei berthynas ei hun gyda’i dad dros bowlen hyfryd o sglodion, neu efallai y gallai Watson godi cwr y llen ar ei astudiaeth Little Albert wrth i ni rannu sundae hufen iâ
Oes yna 'fyth' cyffredin am Seicoleg yr ydych yn aml yn ei gywiro?
Mae yna lawer o astudiaethau y mae pobl yn dysgu amdanynt sy'n ymddangos fel pe baent yn cael eu camddehongli, fel arfer yn ymwneud ag ansawdd a goblygiadau arbrawf carchar Stanford, ac astudiaethau sioc drydanol Milgram. Dwi'n ffeindio fy hun yn siarad amdanyn nhw LOT!
Oes yna unrhyw beth yr hoffech fod wedi gwybod pan oeddech yn penderfynu beth i'w astudio?
Mae cael nod gyrfa mewn golwg yn braf, ond mae gennych berffaith hawl i newid y nodau hynny yn ystod eich astudiaethau!
Sut ydych chi'n cymhwyso'r hyn yr ydych yn ei ddysgu mewn bywyd bob dydd?
Dwi bob amser yn ceisio ystyried safbwyntiau a phrofiadau pobl eraill wrth edrych ar eu hymddygiad. Mae'n debyg nad yw rhywun sy’n torri ar fy nhraws yn eu car yn berson erchyll, mae’n debygol eu bod yn delio â'u problemau eu hunain ac ar frys neu ddim yn canolbwyntio. Dylwn beidio â’u beirniadu, oherwydd gwn fy mod yn colli golwg ar bethau o bryd i'w gilydd, a hoffwn obeithio y byddai pobl yn dangos dealltwriaeth tuag ataf i.
Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch yn ystod eich taith academaidd?
Mae Academia yn cwmpasu mwy na deallusrwydd yn unig. Mae'r un mor bwysig eich bod yn gallu codi eto yn wyneb her pan fyddwch wedi’ch trechu.
Beth yw eich hoff ran am ddysgu Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor?
Cyfarfod â llawer o wahanol bobl a siarad am bethau sydd o ddiddordeb i ni!
Oes gennych chi unrhyw straeon cofiadwy o weithio gyda myfyrwyr neu yn eich ymchwil?
Roeddwn mewn cyfarfod project ymchwil gyda rhai myfyrwyr, ac roeddem wedi bod yn trafod y llenyddiaeth yn y maes a oedd yn arbennig o bwysig i'n project. Yn ystod y cyfarfod, daeth aelod o staff i guro ar y drws i ofyn a fyddai’r ystafell yn rhydd cyn bo hir. Ar ôl i’r aelod o staff adael, dywedais wrth y myfyrwyr mai'r person wrth y drws oedd prif awdur y darn pwysicaf o ymchwil yr oeddem yn ei ddefnyddio. Roeddynt wedi’u syfrdanu!
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
#Hwyl, #Gwreiddiol, #Cyffrous
Dr Tracey Lloyd
Pe gallech chi gael swper gydag unrhyw seicolegydd enwog, ddoe neu heddiw, pwy fyddai hwnnw/honno a pham?
Carl Jung. Byddwn wrth fy modd yn sgwrsio ag ef am ei ddamcaniaethau a chael trafodaeth amdanynt, nawr bod gwyddoniaeth wedi symud ymlaen. A fyddai'n cytuno â chanfyddiadau cyfredol ymchwil personoliaeth?
Oes yna 'fyth' cyffredin am Seicoleg yr ydych yn aml yn ei gywiro?
Dydw i ddim yn darllen eich meddwl. Dydw i ddim yn gallu darllen eich meddwl. Fyddwn i ddim eisiau darllen eich meddwl!
Oes yna unrhyw beth yr hoffech fod wedi gwybod pan oeddech yn penderfynu beth i'w astudio?
Does dim angen gosod eich llwybr gyrfa mewn carreg. Mae seicoleg yn faes eang ac efallai na fyddwch yn gwneud yr hyn yr oeddech wedi meddwl y byddech yn ei wneud ar adeg gwneud cais am eich gradd am y tro cyntaf. Mae’n siŵr bod rhai agweddau ar Seicoleg nad ydych wedi clywed amdanynt hyd yn oed.
Sut ydych chi'n cymhwyso'r hyn yr ydych yn ei ddysgu mewn bywyd bob dydd?
Dwi’n addysgu Personoliaeth a Gwahaniaethau Unigol, felly mae'r rhan fwyaf ohono'n berthnasol i fywyd go iawn. Dwi’n meddwl mai un o'r dosbarthiadau mwyaf defnyddiol dwi’n ei ddysgu yw cymhelliant - mae'r stwff ar gymhelliant academaidd yn ddefnyddiol iawn i'n myfyrwyr.
Beth yw eich hoff ran am ddysgu Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor?
Y myfyrwyr. Mae ein myfyrwyr yn anhygoel. Mae'n anrhydedd cael gweithio gyda nhw. Mae’n deimlad gwych pan fyddaf yn addysgu ac maen nhw'n gofyn cwestiynau craff iawn.
Oes gennych chi unrhyw straeon cofiadwy o weithio gyda myfyrwyr neu yn eich ymchwil?
Pan aethom â rhai myfyrwyr i gynhadledd. Roedd y bws yn gadael yn gynnar, felly daeth y myfyrwyr ar y bws yn gwisgo eu pyjamas. Pan wnaethon ni stopio mewn gorsaf wasanaeth i newid, sylweddolodd un ohonyn nhw ei fod wedi anghofio dod â'i drowsus. Roeddem y tu allan i siop ddillad adnabyddus am 8.30 yn aros iddi agor. Digwyddodd hyn flynyddoedd lawer yn ôl, ac mae'r myfyriwr hwn bellach yn ddarlithydd ac yn ymchwilydd.
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
ċċċċċċGwyddoniaeth, cymuned, anhygoel.
Dr Awel Vaughan-Evans
Beth yw'r arbrawf neu astudiaeth fwyaf cyfareddol i chi erioed weithio arno neu ddysgu amdano?
Roeddwn yn gweithio ar ymchwil ychydig o flynyddoedd yn ôl a oedd yn edrych ar ymatebion pobl i wybodaeth gywir/anghywir a oedd un ai'n bositif neu'n negatif. Y darganfyddiad diddorol oedd bod atebion pobl yn newid yn ddibynnol ar iaith y wybodaeth: Os oedd y wybodaeth gywir yn negyddol, ond yn cael ei chyflwyno yn yr iaith gyntaf (Cymraeg), roedd cyfranogwyr yn ei derbyn fel ffaith. Ond os oedd yr un wybodaeth yn cael ei chyflwyno yn yr ail iaith (Saesneg), roedd cyfranogwyr yn llai tebygol o'i derbyn fel ffaith. Awgryma hyn fod pobl ddwyieithog yn prosesu gwybodaeth yn wahanol yn eu gwahanol ieithoedd, sy'n eithaf cŵl!
Pe gallech chi gael swper gydag unrhyw seicolegydd enwog, ddoe neu heddiw, pwy fyddai hwnnw/honno a pham?
Un amlwg sy'n dod i’r meddwl ydi Philip Zimbardo, a ddaeth yn enwog oherwydd ei ymchwil ddadleuol o'r enw 'Stanford prison experiment". Faswn i'n ei holi am yr astudiaeth ei hun, pam na benderfynodd atal yr ymchwil yn gynt, a sut byddai'n ail-ddylunio'r ymchwil i gael ei gynnal heddiw.
Oes yna 'fyth' cyffredin am Seicoleg yr ydych yn aml yn ei gywiro?
Ymennydd chwith neu ymennydd de! Does dim tystiolaeth gadarn sy'n honni fod un ochr o'r ymennydd yn fwy trechol na'r llall. Mae'n wir fod y ddau hemisffer yn arbenigo mewn prosesau gwahanol, ond dydi hyn ddim yn golygu fod creadigrwydd ar y dde a rhesymeg ar y chwith!
Beth yw’r peth rhyfeddaf neu fwyaf annisgwyl yr ydych wedi’i ddysgu drwy eich ymchwil?
Bod rheolau'r ddwy iaith yn rhyngweithio'n gyfan gwbl. Dwi wedi gwneud dipyn o ymchwil yn edrych ar ddwyieithrwydd, a sut mae gwahanol elfennau ein hieithoedd (e.e., gramadeg) yn dylanwadu ar ei gilydd. Mae fy ymchwil yn awgrymu fod elfennau'r ddwy iaith yn rhyngweithio, sy'n golygu ein bod yn gallu defnyddio gwybodaeth am un iaith (e.e., y Gymraeg) i'n helpu i ddatrys problemau wrth ddarllen yn yr iaith arall (e.e., Saesneg).
Beth yw eich hoff ran am ddysgu Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor?
Fy hoff beth am addysgu Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ydi'r gymuned agos sy'n bodoli rhwng staff a myfyrwyr. Dwi wrth fy modd yn cael sgyrsiau gyda myfyrwyr am gynnwys y cwrs, eu hobïau, a'u cynlluniau at y dyfodol!
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Diddorol; Cyffrous; Ysbrydoledig
Dr Beverly Pickard-Jones
Beth achosodd i chi fod eisiau astudio Seicoleg?
Roedd gen i ddiddordeb yn yr hyn sy'n gwneud i bobl dicio, pam mae pobl yn gwneud y pethau maen nhw'n eu gwneud, a pha ffactorau sy'n effeithio ar ganfyddiad a gwybyddiaeth. Sut allwn ni ddefnyddio data i newid y byd? Sut allwn ni ddefnyddio tystiolaeth i wneud penderfyniadau, yn hytrach na dibynnu ar farn?
Pe gallech chi gael swper gydag unrhyw seicolegydd enwog, ddoe neu heddiw, pwy fyddai hwnnw/honno a pham?
Dwi’n mynd i dwyllo a dweud bod fy holl gydweithwyr yn arbenigwyr cyhoeddedig, ac felly'n enwog yn eu maes. Nhw yw'r bobl orau i gael swper gyda nhw, a dwi mor ffodus fy mod yn gallu eu galw'n ffrindiau, yn ogystal â chydweithwyr. Dwi’n gweld enwogrwydd yn hynod anniddorol, a hoffwn, fel cymdeithas, inni roi'r gorau i ganolbwyntio ar statws neu gydnabyddiaeth fel mesur o werth rhywun.
Oes yna 'fyth' cyffredin am Seicoleg yr ydych yn aml yn ei gywiro?
"Arddulliau dysgu" - er enghraifft, a ydych chi'n ddysgwr "gweledol", "clywedol", neu "ginaesthetig"? Mae’r myth wedi cael ei chwalu ers dros 20 mlynedd, ond mae'n dal i fod yn gamsyniad cyffredin ym myd addysg. Mae hyn yn niweidiol, gan y gallai atal athrawon rhag defnyddio amrywiaeth o dechnegau gyda'r holl blant y maent yn eu haddysgu, neu eu harwain at ddiystyru materion dysgu a brofir gan ddisgyblion oherwydd nad oedd yr addysgu "yn eu dull dysgu dewisol". Mewn gwirionedd, mae pawb yn defnyddio amrywiaeth o arddulliau.
Oes gennych chi hoff ffaith am yr ymennydd neu ffenomen seicolegol sydd bob amser yn syfrdanu pobl?
Esgeulustod hemiofodol! Weithiau, gall briwiau (oherwydd strôc gan amlaf) achosi i bobl anwybyddu un ochr o ofod. Efallai y byddant yn eillio un ochr i'w hwyneb, yn bwyta o un ochr y plât, yn tynnu llun hanner blodyn, ac yn methu â sylwi ar unrhyw beth sy’n digwydd ar ochr arall y gofod. Mae'n rhyfedd iawn meddwl y gallai hanner eich bodolaeth beidio â bodoli i chi. Y newyddion da yw ei fod fel arfer yn gwella o fewn ychydig fisoedd.
Sut ydych chi'n cymhwyso'r hyn yr ydych yn ei ddysgu mewn bywyd bob dydd?
Y sgil pwysicaf, yn fy marn i, yw dadansoddi beirniadol. Er ein bod yn addysgu hyn mewn seicoleg, mae'n werthfawr ar draws pob disgyblaeth. Dadansoddiad beirniadol yw'r gallu i werthuso tystiolaeth yn ofalus, gan wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen, a gwrthsefyll dadleuon gwan. Nid oes unrhyw un eisiau cael ei dwyllo gan dwyllwybodaeth, sy’n fater cynyddol dreiddiol yn ein cymdeithas. Gallwn ddechrau brwydro yn erbyn yr her gymdeithasol hon trwy anrhydeddu ein sgiliau dadansoddi beirniadol, ac ers cael ein peledu â gwybodaeth bob dydd, dyma sut dwi’n cymhwyso'r hyn dwi wedi'i ddysgu i fywyd bob dydd.
Pe gallech chi ddysgu cysyniad Seicoleg i unrhyw un yn y byd, pwy fyddai hwnnw a beth fyddech chi'n ei ddysgu iddyn nhw?Dwi’n twyllo eto, ond byddwn wrth fy modd yn cydweithio ag economegwyr ac addysgu arweinwyr y byd a Phrif Weithredwyr am y Mynegai Hapusrwydd. Gallai addysgu arweinwyr sut mae llesiant seicolegol yn croestorri ag iechyd economaidd hyrwyddo polisïau ac arferion corfforaethol sy’n cefnogi ansawdd bywyd cyffredinol eu pobl, wrth gefnogi nodau eu sefydliad (neu wlad).
Beth yw'r cwestiwn rhyfeddaf a ofynnwyd i chi erioed fel darlithydd Seicoleg?
"Wyt ti eisiau cwrdd â fy nefaid?" (Yr ateb, wrth gwrs, oedd "OES".)
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Trawsnewidiol, Cynhwysol, Hwyliog.
Dr Shreyasi (Cece) Desai
Oes yna unrhyw beth yr hoffech fod wedi gwybod pan oeddech yn penderfynu beth i'w astudio?
Byddai'n dda gennyf pe bawn wedi gwybod am yr amryw lwybrau i mewn ac allan o seicoleg. Er enghraifft, beth y dylwn ei astudio os ydw i eisiau cyfrannu at ymchwil (PhD), yn erbyn pa raddau fyddai'n fy helpu i ddod yn seicolegydd gweithredol (Msc -> D.ForenPsy/D.Clin)
Beth yw’r peth rhyfeddaf neu fwyaf annisgwyl yr ydych wedi’i ddysgu drwy eich ymchwil?
Trais rhywiol yw fy maes ymchwil, a darllenais bapur a oedd yn nodi mai trais rhywiol yw un o'r UNIG droseddau lle rydym yn craffu ar nodweddion y dioddefwr cyn i ni edrych ar y cyflawnwr. Ac mae hynny wedi aros gyda mi erioed.
Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch yn ystod eich taith academaidd?
Cafodd y ddau beth yma eu dweud wrthyf gan fy narlithydd entomoleg fforensig yn y flwyddyn gyntaf, wrth iddo sôn am bresenoldeb pryfed chwythu ar weddillion dynol sy’n dadelfennu, ond mae’n berthnasol i bron unrhyw ran o seicoleg:
1. Nid yw cydberthynas yn achosiaeth (h.y. nid yw presenoldeb pryfed chwythu mewn ardal yn cadarnhau bod corff wedi bod yno)
2. Nid yw absenoldeb tystiolaeth yn dystiolaeth o absenoldeb (h.y. nid yw absenoldeb larfa pryfed chwythu yn golygu absenoldeb corff)
Sut mae Seicoleg yn ein helpu i ddeall tueddiadau cyfredol mewn cymdeithas neu gyfryngau cymdeithasol?Dwi’n teimlo mor gryf am asesiadau seicoleg sy’n gofyn yn gyson ichi ddadansoddi gwahanol ymchwil yn feirniadol i gyflwyno safbwynt yn y papur; mae hon yn agwedd mor bwysig ar lythrennedd cyfryngau. Mae gallu gweld person yn siarad yn angerddol am rywbeth ac yna chwilio am safbwyntiau gwrthwynebol i ddatblygu barn yn sgil angenrheidiol yn y byd sydd ohoni.
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Agos-atoch, personol, calonogol.
Yr Athro Rob Ward
Beth wnaeth i chi fod eisiau astudio Seicoleg?
Roedd rhai o fy ffrindiau yn yr ysgol uwchradd ag uchelgeisiau deallusol gwyllt, a chefais fy sugno i mewn. Roedd un yn mynd i adeiladu aneddiadau yn y gofod, roedd un yn mynd i wella marwolaeth, a chefais i fy ysbrydoli gan y ffilm 2001 a'r HAL 9000 i ddarganfod sut mae’r ymennydd yn gweithio.
Oes gennych chi hoff ffaith am yr ymennydd neu ffenomen seicolegol sydd bob amser yn syfrdanu pobl?
Ydw, dwi'n seicolegydd arbrofol ond na, ni fyddaf yn eich seicdreiddio yn ystod ein sgwrs.
Oes gennych chi hoff ffaith am yr ymennydd neu ffenomen seicolegol sydd bob amser yn syfrdanu pobl?
Er nad oes llawer yn credu hyn, o ran eich perthynas ddydd i ddydd rhwng rhiant a phlentyn, mae degawdau o waith ac astudiaethau angyfrifol ym maes geneteg ymddygiadol wedi canfod, yn y bôn, bod arddull rhianta’n cael dim dylanwad ar bersonoliaeth neu ymddygiad y plentyn ar ôl iddo orffen tyfu. Doeddwn i ddim yn credu hyn fy hun y tro cyntaf i mi ei glywed, ond mae'n hawdd iawn dod o hyd i'r astudiaethau.
Sut mae Seicoleg yn ein helpu i ddeall tueddiadau cyfredol mewn cymdeithas neu gyfryngau cymdeithasol?
Mae ein hymennydd yn systemau pwerus ar gyfer canfyddiad, meddwl a gweithredu, ac maent wedi'u manwl diwnio fel y gallwn oroesi realiti. Fodd bynnag, fel y mae Robert Trivers yn ei addysgu yn ei ddamcaniaeth o hunan-dwyll, mae realiti weithiau'n ail fiolin i'r amgylchedd cymdeithasol. Felly mae ein hymennydd hefyd wedi'u cynllunio i gamddeall realiti yn systematig, ac i gamarwain ein hunain ac eraill ynghylch gwerthoedd a bwriadau. Mae cecru ar y cyfryngau cymdeithasol yn un man lle gallwch weld y dyluniad hwn ar gyfer camddealltwriaeth ar waith.
Oes gennych chi unrhyw straeon cofiadwy o weithio gyda myfyrwyr neu yn eich ymchwil?
Flynyddoedd yn ôl, roeddwn yn ymchwilio i sylwgarwch gweledol, rhywbeth yr oeddwn yn ei hoffi, tra roeddwn yn addysgu am wybyddiaeth gymdeithasol, rhywbeth yr oeddwn yn ei garu. Gofynnodd myfyriwr "pam nad ydych yn gwneud ymchwil i wybyddiaeth gymdeithasol?". Hei, cwestiwn da! Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roeddwn wedi newid fy ymchwil.
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Er mwyn ansawdd.
Dr Azlina Amir Kassim
Beth achosodd i chi fod eisiau astudio Seicoleg?
Es ymlaen i gwblhau fy ngradd israddedig yn y gwyddorau biofeddygol, ond sylweddolais nad oeddwn yn teimlo'n angerddol amdano. Ond wedyn, des ar draws gwerslyfr seicoleg, ac roeddwn wedi gwirioni. Sylweddolais fy mod â diddordeb mwy o lawer mewn deall pobl, a deall pam eu bod yn meddwl ac yn ymddwyn fel y maent.
Oes gennych chi hoff ffaith am yr ymennydd neu ffenomen seicolegol sydd bob amser yn syfrdanu pobl?
Niwroplastigedd! Pan fydd anaf difrifol yn digwydd, gall yr ymennydd addasu ac ad-drefnu ei hun, gyda rhannau eraill o'r ymennydd yn camu i'r adwy i ymgymryd â swyddogaethau newydd. Dwi’n meddwl bod gallu'r ymennydd i ffurfio cysylltiadau niwral ac ailweirio llwybrau mewn ymateb i brofiad a dysgu yn hynod ddiddorol. Yn yr un modd, os byddwn ni’n rhoi'r gorau i herio ein meddyliau neu’n rhoi’r gorau i ddysgu pethau newydd, gall y cysylltiadau niwral hynny wanhau dros amser hefyd. Felly, mae gwir angen inni gadw’n actif yn feddyliol er mwyn cryfhau’r llwybrau hynny!
Oes yna unrhyw beth yr hoffech fod wedi gwybod pan oeddech yn penderfynu beth i'w astudio?Byddwn wedi hoffi gwybod nad yw dewis gradd yn golygu dewis eich dyfodol cyfan. Roeddwn yn benderfynol o ddewis y cwrs “cywir” a fyddai'n pennu fy nyfodol. Roedd fy llwybr i ddod yn ddarlithydd seicoleg yn droellog ac yn llawn troeon annisgwyl, ond ychwanegodd pob profiad werth ar hyd y ffordd. Mae seicoleg yn faes mor amlbwrpas, felly mae llawer o ffyrdd y gallwch gymhwyso'ch hun. Felly, hoffwn pe na bawn wedi pwysleisio'r nod terfynol. Nid oes rhaid i'ch llwybr fod yn syth a chul - mae pob profiad yn ychwanegu gwerth.
Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch yn ystod eich taith academaidd?
Bydd POPETH YN IAWN!
Sut mae Seicoleg yn ein helpu i ddeall tueddiadau cyfredol mewn cymdeithas neu gyfryngau cymdeithasol?
Mae seicoleg yn bwysig i feithrin meddwl beirniadol. Yn yr hinsawdd bresennol o wybodaeth anghywir sy'n cael ei hysgogi'n rhannol gan gyfryngau cymdeithasol a damcaniaethau cynllwynio, mae meddwl yn feirniadol yn bwysig i'n helpu i adnabod ein credoau a chwestiynu'r hyn yr ydym yn ei ddarllen. Trwy gymhwyso cysyniadau seicolegol, gallwn werthuso gwybodaeth yn fwy beirniadol, a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.
Oes gennych chi unrhyw straeon cofiadwy o weithio gyda myfyrwyr neu yn eich ymchwil?
Ddwy flynedd yn ôl, aeth fy nghydweithwyr a minnau, ynghyd â’n myfyrwyr Blwyddyn 2, ati i dynnu coes darlithydd arall, Tracey Lloyd. Roedd Tracey bob amser yn mynd yn flin pan fo pobl yn dechrau mynd i hwyl yr ŵyl cyn mis Rhagfyr, felly fe benderfynon ni gael ychydig o hwyl arni. Fe wnaethom annog myfyrwyr blwyddyn 2 i ddod i’w dosbarth yn gwisgo dillad Nadolig – siwmperi Nadoligaidd, hetiau ac addurniadau. Roedd ei hwyneb yn bictiwr pan gerddodd i mewn i'r dosbarth gydag 'All I want for Christmas is you' gan Mariah Carey yn chwarae dros yr ystafell! Erbyn y diwedd, roedd hi wedi cynhesu digon i ddawnsio i'r gân. Cawsom cymaint o hwyl! Er bod Tracey wedi clywed rhai mân sibrydion a wnaeth iddi deimlo’n amheus, roedd myfyrwyr Blwyddyn 2 yn wych am gadw’r gyfrinach!
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Hwyliog, cefnogol, gwych!
Dr Simone Lira Calabrich
Beth achosodd i chi fod eisiau astudio Seicoleg?
Cyn dod yn ddarlithydd mewn seicoleg, treuliais flynyddoedd lawer yn gweithio fel hyfforddwr ail iaith. Yn ystod fy astudiaethau meistr mewn ieithyddiaeth gymhwysol ac addysgu iaith, astudiais ddau fodiwl a oedd yn fy ysgogi'n ddeallusol, sef niwroieithyddiaeth a seicoieithyddiaeth. Fe wnaeth y modiwlau hyn fy helpu i ddeall sut mae'r ymennydd yn prosesu iaith, a oedd yn bwnc a oedd o ddiddordeb mawr i mi. Des yn fwyfwy chwilfrydig am y mecanweithiau sylfaenol o ran sut mae pobl yn dysgu, yn cofio, ac yn defnyddio iaith—a’r hyn sy’n digwydd mewn achosion lle caiff y broses o brosesu iaith ei hamharu arni, megis ymhlith unigolion sydd ag anhwylderau iaith.
Roeddwn eisiau cyfoethogi fy nealltwriaeth o sut mae cof, sylw, a swyddogaethau gwybyddol eraill yn gweithio gyda'i gilydd wrth brosesu iaith. Po fwyaf y dysgais, y mwyaf y sylweddolais y gallai seicoleg gynnig y mewnwelediadau yr oeddwn yn edrych amdanynt, nid yn unig o ran iaith, ond hefyd o ran sut mae'r meddwl yn gweithio mewn ystyr ehangach. Arweiniodd y diddordeb hwn yn y pen draw at gyrraedd yma heddiw, yn gweithio fel darlithydd yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, lle rydw i'n cael rhannu fy mrwdfrydedd am seicoleg gyda'm myfyrwyr.
Pe gallech chi gael swper gydag unrhyw seicolegydd enwog, ddoe neu heddiw, pwy fyddai hwnnw/honno a pham?
Pe bawn i'n gallu cael cinio gydag unrhyw seicolegydd enwog, Elizabeth Loftus fyddai honno. Heb os, mae hi’n un o'r seicolegwyr mwyaf dylanwadol yn y maes seicoleg fodern, ac yn arbennig o adnabyddus am ei gwaith arloesol ar y cof, a sut mae atgofion ffug yn cael eu ffurfio. Mae ei hymchwil yn dangos sut y gall hyd yn oed newidiadau bach mewn iaith ail-lunio’r hyn y mae pobl yn ei gofio, sy’n hynod ddiddorol i mi. Er enghraifft, dangosodd Loftus bod gofyn, “A welsoch chi'r camera ar y bwrdd?” yn lle “A welsoch chi gamera ar y bwrdd?” yn gallu arwain pobl i “gofio” pethau nad oedd efallai yno o gwbl.
Mae gan hyn oblygiadau enfawr i dystiolaeth llygad-dyst, sy’n faes yr ydw i wedi datblygu diddordeb ynddo yn ddiweddar, ac wedi bod yn darllen amdano. Mae'n anhygoel meddwl y gall dewis un gair ddylanwadu ar yr hyn y mae rhywun yn ei gofio, a hyd yn oed creu atgofion o ddigwyddiadau na ddigwyddodd erioed. Gyda fy niddordeb fy hun mewn iaith a sut mae'n cael ei phrosesu, byddwn wrth fy modd yn siarad â hi am y ffyrdd y mae iaith a chof yn croestorri, a chlywed ei barn ar yr effaith y mae ei hymchwil wedi'i chael ar seicoleg a'r maes cyfreithiol.
Oes gennych chi hoff ffaith am yr ymennydd neu ffenomen seicolegol sydd bob amser yn syfrdanu pobl?
Fy hoff ffenomen ymennydd yw synesthesia. Mae'n hynod ddiddorol meddwl y gall rhai pobl brofi synhwyrau mewn cyfuniadau unigryw - megis blasu geiriau, clywed lliwiau, neu hyd yn oed weld synau. Mae'n ddiddorol iawn meddwl sut y gallai hyn ddylanwadu ar brosesau dysgu iaith neu'r cof.
Dwi ond wedi darllen am synesthesia, dydw i erioed wedi cael y cyfle i gwrdd â rhywun sy’n ei brofi’n bersonol. Byddwn wrth fy modd yn cael sgwrs gyda rhywun sy’n profi synesthesia, i ddysgu am eu profiadau yn uniongyrchol, yn enwedig sut mae'n siapio eu canfyddiad a'u bywyd bob dydd.
Beth yw’r peth rhyfeddaf neu fwyaf annisgwyl yr ydych wedi’i ddysgu drwy eich ymchwil?
Dwi ddim yn siŵr y byddwn yn galw'r ffaith hon yn rhyfedd fel y cyfryw, ond mae'n bendant yn rhywbeth doeddwn i ddim yn ymwybodol ohono cyn fy PhD, ac roedd yn hynod ddiddorol: y ffenomen "edrych ar ddim". Mae'r ffenomen hon yn digwydd pan fydd pobl yn cofio gwrthrychau, wynebau neu olygfeydd penodol, ac mae eu llygaid yn symud i'r man lle'r oedd yr eitemau hynny wedi'u lleoli'n wreiddiol - hyd yn oed os nad ydyn nhw yno mwyach. Mae’r symudiadau llygaid hyn yn awgrymu rhyw fath o “ail-greu” meddyliol o’r olygfa weledol wreiddiol, fel petai’r meddwl yn angori yn ôl i’r cyd-destun lle ffurfiwyd y cof gyntaf. Mae'n ffordd i'r ymennydd adalw gwybodaeth ofodol a chyd-destunol, gan ddangos faint o wybyddiaeth sy'n dibynnu ar gyd-destun corfforol, hyd yn oed pan nad oes dim byd corfforol i edrych arno.
Yn ystod fy PhD, ymchwiliais i'r ffenomen hon gan ddefnyddio gwe-gamera i dracio llygaid a monitro lle oedd pobl yn edrych ar eu sgriniau. Roedd fy astudiaeth yn cynnwys darllenwyr nodweddiadol ac unigolion â dyslecsia, a oedd yn caniatáu i mi sylwi ar unrhyw wahaniaethau yn y ffordd y defnyddiodd y grwpiau hyn symudiadau llygaid i gynorthwyo cof a chofio.
Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch yn ystod eich taith academaidd?
Y cyngor a gefais yn ystod fy nhaith academaidd oedd nid oes angen i bethau fod yn berffaith ar unwaith. Dwi’n tueddu i or-feddwl pethau, a dwi wedi dal fy hun yn aml yn anelu at berffeithrwydd ar y cynnig cyntaf, sydd, fel dwi wedi’i ddysgu, yn gallu fy arafu mewn gwirionedd. Sylweddolais y gall ceisio cael popeth "yn iawn" o'r dechrau roi llawer iawn o bwysau ar y broses, gan ei gwneud hi'n anoddach gwneud cynnydd go iawn.
Yn lle hynny, dwi wedi dysgu gwerthfawrogi gwerth enillion bach a chynnydd graddol. Does dim ffasiwn beth â darn perffaith o waith - nod afrealistig yw perffeithrwydd. Wrth gwrs, mae'n dda ymdrechu hyd gorau ein gallu, ond bydd gan bob project gyfyngiadau. Dwi wedi dod i weld y cyfyngiadau hynny fel cyfleoedd i ailfeddwl pethau, neu i roi cynnig ar ddulliau newydd o weithredu. Mae'r persbectif hwn wedi fy helpu i gynnal cymhelliant a chanolbwyntio ar gynnydd cyson, yn hytrach na mynd yn sownd mewn cylch yn ceisio delfryd amhosibl.
Beth yw eich hoff ran am ddysgu Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor?
Fy hoff beth am addysgu seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yw’r cymysgedd o safbwyntiau ac arbenigedd amrywiol gan gydweithwyr ledled y byd—Awstralia, India, Malaysia, yr Unol Daleithiau, Canada, Ffrainc, Sbaen, yr Eidal a Mecsico, mae’r rhestr yn hirfaith. Mae pob un ohonom wir yn gofalu am ein myfyrwyr ac rydym wedi ymroi i'w helpu i lwyddo. Mae ein hadran yn darparu llawer o gefnogaeth ac arweiniad i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hannog a'u bod yn barod i gyflawni eu llawn botensial.
Dwi hefyd yn hynod o falch o'n cyfleusterau sydd gyda’r gorau yn y byd, megis ein sganiwr MRI pwrpasol ymchwil, labordai tracio llygaid, labordai EEG, technoleg cipio symudiadau, ac offer TMS, ymysg llawer mwy. Mae’r cyfleusterau hyn yn cefnogi ymchwil arloesol ein hadran ac yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr ymwneud yn uniongyrchol ag astudiaethau, gan helpu i ddatblygu gwyddoniaeth mewn ffyrdd ystyrlon. Mae ansawdd ein hadran, y cyfleoedd yr ydym yn eu cynnig, a’r gefnogaeth yr ydym yn ei darparu i’n myfyrwyr yn gwneud Prifysgol Bangor yn lle unigryw i addysgu—a dwi’n teimlo’n lwcus i fod yn rhan ohoni.
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Cynhwysol, Cefnogol, Ymchwilgar.
Dr Richard Binney
Beth yw'r arbrawf neu astudiaeth fwyaf cyfareddol i chi erioed weithio arno neu ddysgu amdano?
Nid astudiaeth unigol mohoni, ond corff cyfan o ymchwil i gyflwr o’r enw Dementia Semantig. Mae pobl sydd â'r cyflwr hwn yn colli eu gallu i ddeall ystyr geiriau, gwrthrychau a hyd yn oed pobl eraill. Mae eu lleferydd a'u gweithredoedd hefyd yn mynd yn ddiystyr. Mae’n nam dwys a dinistriol sy’n codi cwestiynau hanfodol ynglŷn â phwy a beth ydym ni fel bodau dynol.
Pe gallech chi gael swper gydag unrhyw seicolegydd enwog, ddoe neu heddiw, pwy fyddai hwnnw/honno a pham?
Oliver Sacks. Cefais ei gyfarfod unwaith, ond ni chawsom gyfle i gael swper na rhannu straeon a syniadau am namau niwrolegol anarferol.
Beth yw rhai o'r cyfleoedd gyrfa cŵl mewn Seicoleg efallai na fydd myfyrwyr yn gwybod amdanynt?
Dwi’n adnabod pobl sydd wedi graddio mewn Seicoleg sydd bellach yn gweithio yn y maes cyllid/busnes, dylanwadwyr, gweithio gyda deallusrwydd artiffisial, gweithio gyda chleifion, gweithio i glybiau chwaraeon. Mae’n ymddangos nad oes terfyn ar uchelgais pan fydd gennych radd seicoleg o ansawdd uchel.
Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch yn ystod eich taith academaidd?
Astudiwch beth sy'n eich gwneud chi'n chwilfrydig, nid yr hyn rydych chi'n meddwl y dylech chi ei astudio.
Beth yw eich hoff ran am ddysgu Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor?
Y ffaith bod gennym dîm o’r radd flaenaf o ymchwilwyr sydd ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel, nid yn unig i wyddonwyr dymunol, ond hefyd ymarferwyr, clinigwyr ac unrhyw un sydd eisiau deall beth yw bod yn ddynol, a chymhwyso hynny i leoliadau byd go iawn.
Oes gennych chi unrhyw straeon cofiadwy o weithio gyda myfyrwyr neu yn eich ymchwil?
Mae gen i lu o straeon o weithio gyda phobl â nam niwrolegol, a all wneud ichi chwerthin a chrio ar yr un pryd. Yn anffodus, dwi ddim yn gallu rhannu’r straeon hynny yma, ond byddwn wrth fy modd yn eu trafod mewn tiwtorialau.
Disgrifiwch #SeicBangor mewn 3 gair
Cefnogol, Uchelgeisiol, Unigryw.