ᰮԹ

Fy ngwlad:
 Myfyriwr yn edrych trwy archifau'r Brifysgol

Graddau Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth Israddedig

Darganfyddwch y cwrs Hanes, Archaeoleg, a Threftadaeth i chi

Cymraeg a Hanes - BA (Anrh)
Ymddifyrrwch yn straeon Cymru. Archwiliwch hanes cyfoethog y wlad a bywiogrwydd y Gymraeg yn y cwrs difyr hwn.
Cod UCAS
QV51
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cymraeg a Hanes Cymru - BA (Anrh)
Astudiwch lenyddiaeth ac iaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Paratowch at lwybrau gyrfa amrywiol mewn llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, y celfyddydau a mwy.
Cod UCAS
QMV2
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Gwleidyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BA (Anrh)
Datblygwch eich dealltwriaeth wleidyddol a hogi sgiliau meddwl yn feirniadol trwy wneud blwyddyn sylfaen. Dewch i feistroli dadansoddi ac ymchwil gwleidyddol.
Cod UCAS
L20F
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Hanes - BA (Anrh)
Dadansoddwch y gorffennol a siapio'r dyfodol. Archwiliwch gyfnodau hanesyddol amrywiol a datblygu sgiliau cyfathrebu.
Cod UCAS
V100
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BA (Anrh)
Archwiliwch gyfnodau hanesyddol ac ennill sgiliau ymchwil a meddwl yn feirniadol trwy wneud blwyddyn sylfaen.
Cod UCAS
V10F
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Hanes Modern a Chyfoes - BA (Anrh)
Ffurfiwch ddealltwriaeth o'r byd sydd ohoni. Dadansoddwch hanes diweddar a newid byd-eang a meistroli dadansoddi gwleidyddol a sgiliau ymchwil.
Cod UCAS
V140
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Hanes a Cherddoriaeth - BA (Anrh)
Archwiliwch harmoni hanes a cherddoriaeth. Gwnewch ymchwil a darganfod cyfleoedd gyrfa unigryw yn y celfyddydau ac ym meysydd addysg ac ymchwil hanesyddol.
Cod UCAS
VW13
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Hanes a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Cyfunwch gyfoeth hanesyddol gyda dadansoddi llenyddol. Ymchwiliwch i gyd-destunau diwylliannol a mireinio sgiliau cyfathrebu.
Cod UCAS
3QV1
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Hanes ac Archaeoleg - BA (Anrh)
Tyrchwch ymhellach i hanes a dadorchuddio ei straeon ffisegol. Cyfunwch ddadansoddi hanesyddol gyda thechnegau archaeolegol.
Cod UCAS
V103
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Hanes yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar - BA (Anrh)
Archwiliwch orffennol deinamig yr oesoedd canol a’r cyfnod modern cynnar. Ymchwiliwch i newid cymdeithasol, esblygiad diwylliannol, a digwyddiadau dylanwadol.
Cod UCAS
V130
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Ieithoedd Modern a Hanes - BA (Anrh)
Cyfunwch ieithoedd â hanes ac archwilio esblygiad diwylliannol a dylanwad gwleidyddol.
Cod UCAS
R804
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Treftadaeth, Archaeoleg a Hanes - BA (Anrh)
Datodwch holl haenau hanes a gwarchod ein treftadaeth. Cyfunwch archaeoleg, hanes ac archwiliad diwylliannol.
Cod UCAS
VV41
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Hanes - LLB (Anrh)
Archwiliwch esblygiad cyfreithiol mewn cyd-destunau cymdeithasol. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwil ar gyfer gyrfaoedd amrywiol ym maes y gyfraith a hanes.
Cod UCAS
M1V1
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL
Sian Evans yn gwenu i'r camera yn ei gwisg graddio

Proffil Graddedig Sian Evans

Wrth ddod i Fangor, rydych chi wedi'ch amgylchynu gan hanes - boed eich diddordeb yn y cyfnod cynhanesyddol neu unrhyw gyfnod rhwng hynny a heddiw. Mae gennych chi Safleoedd Treftadaeth y Byd ar garreg eich drws. Mae ehangder y modiwlau a gynigir hefyd yn eich galluogi i deilwra’ch cwrs i'ch diddordebau; a gall staff sy'n arweinwyr yn eu maes eich arwain at y cyfnod rydych chi’n ei fwynhau fwyaf. Mae’r gefnogaeth gan ddarlithwyr, tiwtoriaid personol a staff cymorth yn aruthrol.

Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf yw dysgu mwy a mwy am fy hoff bwnc sef hanes. Mae fy seminarau yn hwyl oherwydd fy mod i'n gallu siarad am fy marn ar bynciau rydw i'n eu caru a gallu dysgu gan eraill..

Nia Rogers,  Hanes

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth llwyddiannus ym Mangor?
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth ym Mangor?
  • Sut ydw i yn gwybod mai Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?

Liam Smiling to Camera with beach backdrop

Liam Evans

Mi oedd y dair blynedd wnes i dreulio ym Mhrifysgol Bangor o blith y gorau erioed. Yma ges i gyfle i ddysgu yr hyn oedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac ehangu fy sgiliau. Mi oedd y brifysgol yn cynnig bob math o fodiwlau difyr a ges i gyfle i astudio meysydd hollol newydd. Roedd y gefnogaeth gan staff yn wych ac roeddwn yn teimlo eu bod wir yn rhoi y myfyrwyr wrth galon bob dim oedd yn digwydd.

Gweithio gyda'r gymuned

Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o weithio gyda'r gymuned, a chredwn yn gryf yn y cysylltiad arbennig rhwng y sefydliad a'r ardal yr ydym wedi'n lleoli ynddi. Dyma rai enghreifftiau o brojectau yn ymwneud â Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:

Ein Hymchwil o fewn Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth

Mae ymchwil cyffrous ac arwyddocaol staff academaidd yr Ysgol yn chwarae rhan bwysig i sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd. Mae ein hymchwil yn rhychwantu amrywiaeth dda o bynciau ac arbenigeddau ym meysydd Hanes, treftadaeth ac Archeoleg gan gynnwys:

  • Hanes Cymru
  • Archaeoleg Gymreig a Cheltaidd
  • Hanes yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar
  • Hanes yr Ugeinfed Ganrif a'r Unfed Ganrif ar Hugain.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.