
Sian Evans

³Ò°ù²¹»å»å:ÌýHanes Canoloesol a Modern Cynnar
Dywedwch wrthym ni beth oeddech chi'n ei hoffi fwyaf am astudio'ch gradd gyda ni ym Mangor...
Y modiwlau amrywiol a'r cyfle i gyfuno’r rhain gyda fy niddordebau; pa mor glên oedd y staff – nid yn unig y staff addysgu ond y staff cymorth gweinyddol, yn y llyfrgelloedd a'r archifau.
Pam Prifysgol Bangor?
Wrth ddod i Fangor, rydych chi wedi'ch amgylchynu gan hanes - boed eich diddordeb yn y cyfnod cynhanesyddol neu unrhyw gyfnod rhwng hynny a heddiw. Mae gennych chi Safleoedd Treftadaeth y Byd ar garreg eich drws. Mae ehangder y modiwlau a gynigir hefyd yn eich galluogi i deilwra’ch cwrs i'ch diddordebau; a gall staff sy'n arweinwyr yn eu maes eich arwain at y cyfnod rydych chi’n ei fwynhau fwyaf. Mae’r gefnogaeth gan ddarlithwyr, tiwtoriaid personol a staff cymorth yn aruthrol.
Yn bennaf oll, y teimlad o gymuned. O'r cychwyn cyntaf, (a dechreuais yng nghanol pandemig) rydych chi'n adeiladu rhwydwaith cefnogol o gyfoedion a staff a fydd yn eich galluogi i gyflawni'ch nodau - neu yn fy achos i, i ragori arnynt.
Be wnaethoch ar ôl graddio?
Ymunais ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd fel Swyddog Allgymorth ac Addysg ym mis Gorffennaf – dau ddiwrnod ar ôl y seremoni raddio! Mae'n swydd ran amser lle rwy’n mynd i ysgolion a chymunedau, yn eu dysgu am archaeoleg y fro ac yn eu helpu i gymryd rhan yn hynny. Rwy’n rhannu’r swydd gyda chydweithiwr sy’n archeolegydd hyfforddedig, felly rhyngom fe allwn ni ddod â hanes yr ardal yn fyw mewn gwirionedd.
Ers ymuno, rydw i wedi bod yn ymwneud â gwaith cloddio cymunedol ar Ynys Môn gyda sefydliad partner. Rwyf hefyd wedi mynd i ysgolion i ddysgu disgyblion am y Neolithig a beth i gadw llygad amdano wrth fynd i gloddio. At hyn, yn ddiweddar rydym ni wedi cynnal project cymunedol yn Nyffryn Ogwen a oedd yn cyfuno gwaith clirio a chofnodi mewn mynwent leol (gyda fy nghydweithiwr yn herio’r glaw a’r gwyntoedd yn y cae) a gweithdy a roddodd y sgiliau i aelodau’r gymuned ddechrau eu hymchwil eu hunain i’r teuluoedd a gladdwyd yn y fynwent a beth all hyn ei ddweud wrthyn nhw am yr ardal.
Fel rhan o’r Tîm Allgymorth ac Addysg rydym ni’n cysylltu’n agos â sefydliadau eraill, gan gynnwys y Brifysgol, i geisio cael mwy o bobl i ymwneud â’r cyfoeth o archaeoleg sydd i’w gael yn yr ardal. Efallai y byddwn yn mynd â breuan llaw, nodiwlau fflint, a ffibr cynhanesyddol o’r Oes Haearn i amgueddfa, gweithio gyda phlant ysgol o’r dref (a wnaethom ni ychydig cyn y Nadolig) neu hwyrach y byddwn yn cysylltu â grwpiau i drefnu darlithoedd ac arddangosiadau ar archeoleg eu cymdogaeth. Rydym yn cynnal gweithdai crefft, a’r Clwb Archeolegwyr Ifanc lleol (y mae fy nghydweithiwr yn ei arwain). Rydym yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr ac aelodau o’r gymuned er mwyn iddyn nhw gael profiad ymarferol o’u harcheoleg leol a rhedeg ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb yn archaeoleg Gwynedd, Môn, a Chymru yn ehangach.
Mae'r swydd yn wahanol bob dydd – dyma sy'n ei gwneud hi mor foddhaus. Rwyf hefyd wrth fy modd â’r ffaith y caf rannu fy nghariad at hanes ac archaeoleg gyda chynulleidfa mor eang ac amrywiol.
A'r darn gorau hyd yn hyn? Dysgu dosbarth o ddisgyblion am y Neolithig a bwyeill llaw – ac i un ohonyn nhw ddarganfod brasffurf ar ei ffordd i fyny i’r gloddfa a dweud wrth fy nghydweithiwr iddo ei adnabod o fy nosbarth yr wythnos flaenorol. Roedd hynny’n teimlo'n wirioneddol dda.
*Mae modiwlau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. I gael y rhestrau mwyaf diweddar o fodiwlau, ewch i dudalen y cwrs. Mae'n bosibl na fydd modiwlau a drafodir yn y proffil graddedig hwn yn cael eu cynnig.