Îá°®³Ô¹Ï

Fy ngwlad:
LLun o stryd siopa brysur.

Graddau Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol Israddedig

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Profiad MyfyrwyrÌý

Aaron Wynne, dwi yn yr ail flwyddyn yn astudio Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol.

Nesi ddewis Prifysgol Bangor oherwydd oni isio astudio yng Nghymru, a Phrifysgol Bangor oedd y dewis gorau i mi. Oni'n awyddus i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd y cwrs oni isio gneud ar gael yma ym Mangor yn y Gymraeg.

Hefyd dwi'n hoff iawn o Ddinas Bangor dwi'n licio'r gymuned glos a bod y Gymraeg yn iaith fyw yn y ddinas, ag oedd pethau fel yna yn bwysig i mi wrth ddewis prifysgol.

Be dwi'n mwynhau orau am y pwnc ydi'r dewis eang o fodiwlau ar y cwrs a hefyd y darlithwyr gwych dwi'n cael ar y cwrs.

Dwi'n lwcus iawn efo'r cwrs dwi wedi dewis, dwi'n cael dewis modiwlau gwahanol efo disgyblaeth wahanol, dwi'n cael cyfarfod darlithwyr gwahanol a dwi wedi mwynhau bob un hyd yma.

Gymraeg ar y stryd ac yn y siopau ac fel myfyriwr ti yn teimlo fel rhan o gymuned Bangor hefyd.

Felly dyna ydi hoff beth fi am Fangor.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol.Ìý

Ìý

Ìý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cymdeithaseg a Pholisi CymdeithasolÌýllwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Ìý

Gweithio yn y gymuned

Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o weithio gyda'r gymuned, a chredwn yn gryf yn y cysylltiad arbennig rhwng y sefydliad a'r ardal yr ydym wedi'n lleoli ynddi. Dyma rai enghreifftiau o brojectau yn ymwneud â Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:

Ein Hymchwil o fewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Mae gan Brifysgol Bangor enw da'n rhyngwladol am ymchwil ryngddisgyblaethol ac arloesol yn ymwneud ag effeithiau arloesi, newidiadau cymdeithasol, datblygiadau gwleidyddol a pholisïau ar iechyd, iechyd meddwl, tlodi, gofal cymdeithasol a lles. MaeÌýÌýymchwilÌýÌýa wneir gan ein staff academaidd ym meysyddÌýCymdeithaseg a Pholisi CymdeithasolÌýyn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.