Îá°®³Ô¹Ï

Fy ngwlad:
Athro mewn ystafell ddosbarth gynradd

Graddau Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid Israddedig

Mae astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn rhoi'r sgiliau i chi weithio a chael effaith ar fywydau plant a phobl ifanc. Rydym yn angerddol am ein haddysgu yma ym Mhrifysgol Bangor ac mae hyn yn dangos yn sgôr boddhad ein myfyrwyr, yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024 cafodd ein gradd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid sgôr o 100% am foddhad fyfyrwyr.

Ar y dudalen hon:
Cyrsiau Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (cyfrwng Cymraeg) - BA (Anrh)
Hyrwyddwch y Gymraeg a meithrin meddyliau ifanc. Meistrolwch ddatblygiad y maes plentyndod ac ieuenctid yn y Gymraeg ac ymgysylltu â chymunedau amrywiol.
Cod UCAS
X314
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (cyfrwng Saesneg) - BA (Anrh)
Mae’r radd hon mewn Plentyndod ac Ieuenctid ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig modiwlau sy’n ymwneud â safbwyntiau seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol.
Cod UCAS
X313
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg (cyfrwng Cymraeg) - BA (Anrh)
Cyfunwch astudiaethau plentyndod ac ieuenctid a chymdeithaseg yn Gymraeg. Hyrwyddwch gyfiawnder cymdeithasol ac ymgysylltu â chymunedau mewn cyd-destun diwylliannol bywiog.
Cod UCAS
X316
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg (cyfrwng Saesneg) - BA (Anrh)
Cyfunwch astudiaethau plentyndod ac ieuenctid a chymdeithaseg. Hyrwyddwch gyfiawnder cymdeithasol ac ymgysylltu â chymunedau mewn cyd-destun diwylliannol bywiog.
Cod UCAS
X315
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg - BA (Anrh)
Dewch i feithrin sgiliau mewn Cymraeg ac astudiaethau plentyndod. Paratowch i addysgu meddyliau ifanc a lansio'ch gyrfa ym myd addysg.
Cod UCAS
X321
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg - BA (Anrh)
Dewch i ddeall meddyliau pobl ifanc. Cyfunwch Astudiaethau Plentyndod â Seicoleg er mwyn archwilio lles ac ymchwil a lansio gyrfaoedd sy'n cael effaith.
Cod UCAS
X319
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Gweld y byd trwy lygaid plentyn

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Profiad Myfyrwyr

Picture of student, Mari Williams

Proffil Myfyriwr Mari Williams

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

"Roeddwn yn sicr fy mod eisiau gweithio  gyda plant gan fy mod eisioes wedi mwynhau treulio amser gyda plant a phobl ifanc yn ystod fy swydd mewn iard farchogaeth. Credaf fy mod wedi dewis y cwrs Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid gan ei fod yn mynd i roi sylfaen gadarn o wybodaeth i mi yna allu penderfynu pa faes o weithio gyda plant buaswn yn ei fwynhau orau."

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ein hymchwil o fewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd. Mae ymchwil yn bwydo'n uniongyrchol i'r modiwlau y byddwch chi'n eu hastudio, gan gyflwyno safbwyntiau cyfoes i chi ar faterion amserol a sicrhau eich bod chi'n graddio gyda dealltwriaeth ragorol o amrywiaeth dda o faterion.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.