Mae  yn dangos bod statws arbennig y coedwigoedd hefyd yn rhoi nodweddion ecolegol pwysig iddynt, yn enwedig eu gwytnwch mawr sy'n eu galluogi i ymadfer ar ôl cyfnodau o ddifrod a dirywiad.
Rhoddir statws cysegredig iâr coedwigoedd yn Epirus, gogledd-orllewin Gwlad Groeg, oherwydd eu cysylltiad ââr Eglwys Uniongred Roegaidd. Mae adeilad eglwys neu nodwedd grefyddol arall yn greiddiol i lawer o'r coedwigoedd. Cawsant eu hamddiffyn rhag camddefnydd ar hyd y cenedlaethau gan waharddiadau llym a orfodir trwy gredoau ysbrydol y bobl leol a pharhad y defodau cysegredig.
Cafodd hanes Epirus dros y 400 mlynedd diwethaf ei nodi gan newidiadau cymdeithasol mawr yng nghyfnod Ymerodraeth yr Otomaniaid, annibyniaeth Gwlad Groeg ac effaith y ddau ryfel byd. Aeth poblogaethau dynol yr ardal wledig trwy amrywiadau mawr. Bu cyfnodau o ddefnydd dwys ar y tir a phwysau ar adnoddauâr coedwigoedd, a bu diboblogiân fodd i adfer y coedwigoedd trwy adfywio naturiol. Dengys ymchwil Prifysgol Ioannina, Prifysgol Bologna, Prifysgol Bangor a Gwasanaeth Coedwigaeth Ioannina, a gyhoeddwyd yn People and Nature, iâr coedwigoedd cysegredig barhau i fod yn nodwedd naturiol gyson yn y dirwedd trwy gydol yr hanes dan sylw.
O gymryd creiddiau pren oâr coed mewn pump o goedwigoedd a mesur eu cylchoedd twf, gwelir amrywiadau mawr yng nghyfradd sefydlu coed newydd ers y goeden fesuredig hynaf, a ddyddiwyd i 1621. Daeth nifer y coed newydd iâw anterth mewn cyfnodau yr oedd poblogaethau dynol yn isel. Roedd tystiolaeth dda hefyd i ddangos bod coed aeddfed y coedwigoedd cysegredig yn gweithredu fel cnewyllyn a wasgarai hadau a fuân fodd i goed newydd ymsefydlu ac ehangu gorchudd y goedwig ledled y dirwedd.
Dywedodd y prif ymchwilydd Dr Valentino Marini Govigli o Brifysgol Bologna:
âMae iâr canlyniadau oblygiadau pwysig i safleoedd naturiol cysegredig oâr fath, y gellir eu hystyried yn âsystemau cymdeithasol-ecolegolâ, aâu helfennau naturiol a dynol yn cydblethu. Bu eu statws diwylliannol cryf yn allweddol iâw goroesiad mewn cyfnodau o gythrwfl enfawr, aâu gallu i ail-hau ac adfer y coedwigoedd ledled y dirwedd pan oedd lleihad mewn pwysau dynol yn caniatĂĄu hynny, a fuân hanfodol iâw gwytnwch.â
Dywedodd John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor, a arweiniodd y tĂŽm ymchwil:
âYn Ă´l ein canlyniadau, rydym wedi gallu cynnig camau ymarferol i sicrhau bod coedwigoedd cysegredig yn gallu ymaddasu i newidiadau cymdeithasol sylweddol. Maeân bwysig codi ymwybyddiaeth y cyhoedd i hybu bywiogrwydd diwylliannol, a rheolaeth weithredol dros y coedwigoedd megis clirio llwyni fflamadwy o ardaloedd ffiniol a phori ysgafn cyfnodol i gynnal y safleoedd naturiol cysegredig unigol yn y dirwedd.â
Ychwanegodd yr Athro Healey:
âMaeâr cydweithio rhyngwladol yn dangos pwysigrwydd cysylltu darganfyddiadau newydd am werth diwylliannol a dynameg ecolegol coedwigoedd ag argymhellion ymarferol er eu cadwraeth, a sicrhau trwy hynny eu bod yn parhau i chwarae rhan hanfodol i genedlaethauâr dyfodol, syân ganolog iâr ymchwil aâr addysgu o ran coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor.â
Nododd yr ymchwilydd Ă´l-ddoethurol Dr Kalliopi Stara o Brifysgol Ioannina:
âErs 2015 cafodd coedwigoedd cysegredig pentrefiâr rhanbarth eu rhestru ym mynegai Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol Gwlad Groeg, ac maent yn elfennau allweddol o Dirwedd Ddiwylliannol Zagori a ychwanegwyd at restr UNESCO o safleoedd treftadaeth y byd yn 2023.â
Ychwanegodd arweinydd y project yr Athro John Halley o Brifysgol Ioannina:
âO ystyried statws uchel y Safleoedd Naturiol Cysegredig hynny bellach, bu cynnydd mawr yn y diddordeb o duâr myfyrwyr aâr cyhoedd, ac mae ein Labordy Ecoleg wedi cynnal cyrsiau maes ecoleg ddiwylliannol a llawer o ddigwyddiadau i ymgysylltu ââr cyhoedd.â
Ychwanegodd Dr Rigas Tsiakiris o Wasanaeth Coedwigaeth Ioannina:
âMae canlyniadauâr ymchwil o fudd mawr iâr Gwasanaeth Coedwigaeth o ran llywio a gweithreduâr rheolaeth sydd ei hangen i warchod y coedwigoedd gwerthfawr ymaâ.
Teitl y papur: