Gyda phryderon cynyddol ynghylch cost amgylcheddol ffermydd pysgod un rhywogaeth, mae a gyllidwyd gan yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn cynnal ymchwil dichonoldeb i gyflwyno math o ffermio pysgod all fod yn fwy cynaliadwy ac a all gynnig mwy o elw, gan ddefnyddio tair rhywogaeth gyflenwol.
Yn yr un modd ag yr oedd pobol frodorol America yn plannu sgwash, India corn a ffa dringo gyda'i gilydd, er mwyn bod o fudd i’w gilydd, (cyfeirir at hyn yn aml fel ‘y tair chwaer’), gall ffermio pysgod asgellog, cregynbysgod a gwymon gyda’i gilydd fod o fudd i’w gilydd a lleihau effaith amgylcheddol ffermio pysgod.
Gelwir y system yn ddyframaeth aml-droffig integredig ar raddfa fach (Small scale integrated multi-trophic aquaculture neu IMTA). Yn draddodiadol, mae wedi’i defnyddio ar raddfa fechan ddomestig yn Asia, gan ddarparu mwy nag un cnwd i’r ffermwr eu defnyddio neu werthu.
²Ñ²¹±ð’r gan Brifysgol Bangor wedi adnabod lleoliadau ar arfordir yr Iwerydd sy’n fwyaf addas ar gyfer IMTA, gan seilio’r gwaith ar ddefnydd o eog, cregyn gleision a môr-wregys, math o wymon o deulu’r môr-wiail, sy’n gyffredin i arfordir tymherus yr Iwerydd. Roedd yr ymchwil yn ystyried dosbarthiad naturiol y tair rhywogaeth, a oedd y lleoliadau addas yn cael eu croesi gan lwybrau llongau prysur neu’n tramwyo gwarchodfeydd morol, ac a oedd porthladd o faint ddigonol yn gyfleus er mwyn cyrraedd marchnadoedd.
Y lleoliadau gorau i ddatblygu IMTA ymhellach oedd arfordir gorllewinol Lewis, Ynysoedd Heledd, Yr Alban; Lough Swilly yn Swydd Donegal, Iwerddon; ac arfordir gorllewinol Llydaw, gogledd-orllewin Ffrainc.
Fel yr esbonia Conchúr Hughes o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor,
“Un o’r problemau gyda dyframaeth un rhywogaeth, o’r math a geir yn Ewrop, yw y gall bwyd dros ben a charthion arwain at ddirywio’r ecoleg leol, tra gall dwysedd nifer y pysgod arwain at orddefnydd gwrthfiotigau ac ychwanegion eraill, er mwyn cynnal stoc bysgod iach.â€
“Mae cregyn gleision yn bwydo wrth ffiltro’r dŵr, gallent fod yn gyfrifol am dynnu hyd at 54% o ddeunydd gwastraff eog o’r dŵr, gan ei ddefnyddio fel egni i dyfu, tra bo’r gwymon yn echdynnu maetholion hydawdd o’r dŵr. Gellir ffermio a defnyddio’r môr-wregys mewn sawl cynnyrch, o ychwanegion bwyd i bobol a ffermydd pysgod, fel gwrtaith neu gynhwysyn mewn cynhyrchion fferyllol.â€
“Mae pob rhywogaeth yn gweddu’r llall ac yn gweithio yn erbyn unrhyw broblemau.â€
Dyframaethu IMTA





Mae eog a chregyn gleision yn fwydydd pwysig yn Ewrop. Er nad yw’r môr-wregys yn ffynhonnell fwyd o bwys ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r sector gwymon brofi twf yn y galw amdano ac iddo ehangu’n sydyn yn y blynyddoedd i ddod, gan ddarparu ffynhonnell amgen o wrtaith a chynnyrch eraill.
Gall tyfu gwymon ddarparu buddiannau amgylcheddol yn ogystal. ²Ñ²¹±ð’r gwymon yn rhwystr yn erbyn egni’r tonnau wrth iddynt nesáu at y glannau, gan leihau’r ynni wrth iddo fynd drwy’r gwymon, yn yr un modd ag y mae coed yn lleihau effaith y gwynt.
Mae hefyd yn codi lefel pH ac yn rhoi ocsigen yn y dŵr.