Dwy Iaith, Dwy Galon?
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Mae gwybod sut i siarad a deall mwy nag un iaith yn sgìl anhygoel, ac yn gallu cael effaith bositif ar yr ymennydd. Ond, oeddech yn gwybod fod iaith hefyd yn gallu newid y ffordd ‘da ni’n gweld y byd? Da ni’n gallu bod yn fwy emosiynol yn un iaith na’r llall, ‘da ni’n gallu ymddwyn yn wahanol yn y ddwy iaith, a ‘da ni’n fwy tebygol o goelio rhywbeth yn ein hiaith gyntaf. Mae meddwl am y gwahaniaethau hyn yn bwysig iawn yn y maes iechyd (e.e., wrth ddewis iaith sesiwn cwnsela) a’r maes cyfreithiol (e.e., wrth ddewis rheithgor (jury)).ÌýÌýÌý
Ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr ar gymhlethdodau iaith, hunaniaeth a lles.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.Â
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg ym Mangor.
Siaradwr
Dr Awel Vaughan-Evans
Mae Awel yn Ddarllenydd mewn seicoleg yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, ac felly'n cyflawni nifer o ddyletswyddau addysgol a gweinyddol gwahanol. Mae hi’n drefnydd ar ddau fodiwl dulliau ymchwil, yn drefnydd ar fodiwl yn y drydedd flwyddyn sy’n ymdrin â’r pwnc cyd-ddisgyblaethol o Niwroestheteg, ac yn arwain ar fodiwlau traethawd hir seicoleg. Mae'r holl fodiwlau hyn yn cael eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg.
Ar hyn o bryd, mae Awel yn goruchwylio nifer o brosiectau ymchwil israddedig sy'n ymwneud â'r pynciau eang o ddwyieithrwydd, defnydd iaith, a dysgu iaith.
Mae ymchwil Awel yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd. Yn benodol, mae ei hymchwil yn edrych ar sut all ieithoedd ryngweithio yn yr ymennydd, ac mae hi’n defnyddio nifer o ddulliau ymchwil niwrowyddonol (gan gynnwys tracio llygaid ac ERPs) i gyflawni hyn. Yn ogystal â hyn, mae Awel wedi dechrau ymchwilio i sut y caiff gerddoriaeth a cherddi eu canfod.