Gorchymyn Trefniadau Plant
Carys Dunlop Lloyd (Myfyriwr)
Mae gorchymyn trefniadau plant yn orchymyn y mae’r llys yn penderfynu arno ac sy’n rheoleiddio pwy y mae plentyn i fyw gydag, i dreulio amser gydag, ac i gael cyswllt fel arall. Fel arfer mae angen gorchmynion trefniant plant pan fod rhieni plentyn neu blant wedi gwahanu ac yn methu dod i gytundeb ynglŷn â mynediad at y plant. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau nid yw hyn yn wir, ac weithiau mae pobl heblaw rhieni yn gwneud ceisiadau fel neiniau a theidiau, perthnasau agos neu bobl eraill sydd â pherthynas agos â'r plant.
Mae Deddfau ar gyfer gorchmynion trefniant plant yn Adran 8 o Ddeddf Plant 1989. Bydd y Llys yn edrych ar amgylchiadau’r teulu unigol ac yn ymwneud yn bennaf â lles y plentyn. Oherwydd natur unigol pob achos bydd y gorchymyn trefniant plentyn a gyrhaeddir yn benodol ar gyfer anghenion ac amgylchiadau unigol y teulu a beth sydd er lles pennaf y plentyn.
Mae’n bosibl (ac yn cael ei annog) i bartïon ddod i gytundeb ar y trefniadau heb fod angen mynd i’r llys.
Cyn gwneud cais i’r llys, fel arfer rhaid i’r partïon fynychu cyfarfod am gyfryngu a elwir hefyd yn gyfarfod gwybodaeth ac asesu cyfryngu (“MIAM”). Nid oes angen bod yn bresennol mewn MIAM os bu cam-drin domestig ond, mewn rhai achosion, hyd yn oed os bu cam-drin domestig, efallai y bydd cyfryngwyr yn dal i allu helpu drwy gyflawni’r hyn a elwir yn ‘shuttle mediation’, sy’n golygu nad yw’r partïon byth yn gorfod dod i gysylltiad, naill ai’n bersonol neu ar-lein.
Ar ôl i'r cais gael ei gyhoeddi, bydd y llys yn trefnu gwrandawiad gyda'r ddau riant. Bydd gwrandawiad y barnwr neu'r ynad (magistrate) yn ceisio canfod rhwng y partïon beth
- Gallant gytuno
- Beth na allant gytuno arno
- Os yw'r plentyn mewn perygl mewn unrhyw Ffordd
Bydd y barnwr neu’r ynad yn annog y partïon i ddod i gytundeb os yw hynny er lles gorau’r plentyn. Os yw hyn yn bosibl ac nad oes unrhyw bryderon ynghylch lles y plentyn gall y barnwr ddod â’r broses i ben.
Os na ellir dod i gytundeb yn y gwrandawiad bydd amserlen yn cael ei gosod ar gyfer yr hyn sy'n digwydd nesaf. Gellir gofyn nifer o bethau i'r unigolion megis ceisio dod i gytundeb eto trwy wahanol adnoddau megis cyfryngu. Gallai’r llys hefyd annog yr unigolion i fynychu cwrs magu plant neu hyd yn oed orchymyn profion cyffuriau neu alcohol os yw hynny’n broblem ynglŷn â hyn.
Wrth wneud gorchymyn bydd yn rhaid i’r barnwr neu’r ynadon ystyried y rhestr wirio lles a nodir yn y Ddeddf Plant a bydd yn ystyried
- Dymuniadau neu deimladau’r plentyn (os yw’n ddigon hen)
- Anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plentyn
- Unrhyw effaith y gall y newidiadau eu cael ar y plentyn
- Y risg bosibl o niwed i'r plentyn
- Gallu'r rhieni i ddiwallu anghenion y plentyn
Bydd gorchymyn trefniant plentyn fel arfer yn cynnwys nifer o amodau megis gyda phwy y bydd y plentyn yn byw yn bennaf, yr amodau y bydd y plentyn yn treulio amser arnynt gyda’r rhiant arall neu unigolion eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant. Gall hyn gynnwys pethau fel dyddiau penodol o'r wythnos a pha mor aml y bydd yr ymweliadau'n digwydd. Gall y gorchymyn hefyd gynnwys cyswllt anuniongyrchol arall fel galwadau ffôn neu negeseuon testun neu hyd yn oed cyswllt wyneb yn wyneb dan oruchwyliaeth.
Mae clinig gyfraith Prifysgol Bangor yn gallu cynghori ar gorchmynion trefniadau plant. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk