ᰮԹ

Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Lindsay Walker ac Enlli Fychan Owain

Rydym mor falch ein bod wedi ennill BAFTA!

Lindsay Walker ac Enlli Fychan Owain

Lindsay Walker

Cyfarwyddwr Llawrydd a Golygydd Cynorthwyol
Astudiodd: BA Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, 2013; MA Sinematograffeg a Chynhyrchu Ffilm/Fideo, 2014

Enlli Fychan Owain

Գ
Astudiodd: BA Astudiaethau Creadigol, 2013

Mae ffilm a grëwyd gan ddwy o raddedigion Prifysgol Bangor, sy'n adrodd hanes boddi pentref Capel Celyn yng Ngwynedd yn y 1960au, wedi ennill gwobr BAFTA Cymru yn y categori Ffilm Fer.

Mae The Welshman yn rhaglen ddogfen am fywyd Owain Williams, un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru a gafwyd yn euog am osod dyfais ffrwydrol ar safle cronfa ddŵr Tryweryn. Cafodd y ffilm ei chreu gan raddedigion Prifysgol Bangor, y cyfarwyddwr Lindsay Walker a'r cynhyrchydd Enlli Fychan Owain, sy'n ferch i Owain Williams.

Lindsay Walker

“Gwnaeth fy astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor fy helpu i fod yn rhagweithiol, y peth mwyaf a ddysgodd i mi oedd yr harddwch sydd i’w gael wrth gydweithio. Gwnaeth fy ngalluogi i archwilio fy nghreadigrwydd a rhoddodd i mi lwybri'r diwydiant.

“Rwyf wrth fy modd fod fy ffilm ddiweddaraf The Welshman wedi ennill BAFTA! Dysgais yn y brifysgol hefyd i fod yn ddyfeisgar - llwyddais i wneud The Welshman heb unrhyw gyllideb ac mae hynny'n bendant yn sgil y gwnes ei feistroli gyda fy nghyfoedion ym Mangor. “

Enlli Fychan Owain Producer

“Wnes i fwynhau Astudiaethau Creadigol oherwydd rhoddodd gyfle i mi roi cynnigar ychydig o wahanol elfennau a oedd i gyd yn ymwneud â fy niddordeb yn y cyfryngau. Dysgais lawer am gysylltiadau cyhoeddus ac roedd hyn yn help mawr i ni wrth hyrwyddo The Welshman ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros 25,000 wedi ei weld mewn 2 ddiwrnod, bu bron i drelar y ffilm fynd yn feirol!”