Îá°®³Ô¹Ï

Fy ngwlad:
Llun tanddwr o blymiwr yn edrych i fyny rhwng y gwymon

Graddau Gwyddorau Eigion Israddedig

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Sgwrsio gyda myfyrwyr a staff

Darganfyddwch y cwrs Gwyddorau Eigion i chi

Bioleg Môr - BSc (Anrh)
Astudiwch amrywiaeth fywiog y cefnfor. Archwiliwch yr agweddau sylfaenol ar fioleg bywyd y môr a chynaliadwyedd. Gwnewch ymchwil a gwaith maes.
Cod UCAS
C160
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr - MSci
Astudiwch amrywiaeth fywiog y cefnfor. Archwiliwch agweddau sylfaenol bioleg bywyd y môr a chynaliadwyedd a gwnewch ymchwil a gwaith maes gyda'r cwrs MSci hwn.
Cod UCAS
C167
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Bioleg Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Archwiliwch fioleg y môr trwy wneud blwyddyn sylfaen ac ymchwilio i ecosystemau a bioamrywiaeth. Siapiwch ymdrechion cadwraeth a datblygwch sgiliau gwaith maes.
Cod UCAS
C16F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr ac Eigioneg - BSc (Anrh)
Cyfunwch fioleg môr ac eigioneg ac archwilio prosesau biolegol, cemegol a ffisegol y cefnforoedd, y moroedd a'r aberoedd.
Cod UCAS
CF17
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Bioleg Môr ac Eigioneg - MSci
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am fioleg môr ac eigioneg.
Cod UCAS
F712
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cadwraeth Fertebratau'r Môr - BSc (Anrh)
Astudiwch organebau’r môr, eu cynefinoedd a'r we fwyd sy'n cynnal ysglyfaethwyr apig, gan gynnwys mamaliaid morol, pysgod, adar y môr, ac ymlusgiaid.
Cod UCAS
C355
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cadwraeth Fertebratau'r Môr - MSci
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am gadwraeth fertebratau’r môr.
Cod UCAS
C356
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Daearyddiaeth Ffisegol ac Eigioneg - BSc (Anrh)
Cyfunwch ddaearyddiaeth ffisegol ac eigioneg ac archwiliwch brosesau daearol a morol ac effaith llygredd a newid hinsawdd.
Cod UCAS
F840
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Eigioneg Ddaearegol - MSci
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am eigioneg ddaearegol.
Cod UCAS
F652
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Eigioneg Ddaearegol - BSc (Anrh)
Mentrwch i ddyfnderoedd eigioneg ddaearegol. Dadansoddwch hanes y Ddaear a deall ecosystemau’r môr. Gwnewch ymchwil a datblygwch sgiliau dadansoddi gwyddonol.
Cod UCAS
F650
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Eigioneg Ddaearegol (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen mewn eigioneg ddaearegol, enillwch sgiliau ar gyfer gyrfaoedd cyffrous mewn meysydd amrywiol. Opsiwn delfrydol i unrhyw un sydd ddim cweit yn bodloni'r gofynion mynediad i wneud gradd 3 blynedd.
Cod UCAS
F62F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Eigioneg Ffisegol - MSci
Cwrs israddedig estynedig yw’r radd Meistr 4 blynedd hon a fydd yn cynyddu eich gwybodaeth am eigioneg ffisegol.
Cod UCAS
F734
Cymhwyster
MSci
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Ffiseg Morol a Geoffiseg - BSc (Anrh)
Cyfunwch ffiseg y cefnforoedd a geoffiseg ac archwiliwch rôl cefnforoedd, y rhyngweithiadau rhwng rhew a chefnforoedd a modelu cyfrifiadurol.
Cod UCAS
F7F6
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Gwyddorau'r Eigion - BSc (Anrh)
Archwiliwch bob agwedd ar yr amgylchedd morol byd-eang ac ymchwilio i ddisgyblaethau gwyddonol arbenigol i ddeall system gymhleth daear-cefnfor-atmosffer.
Cod UCAS
F700
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Pam Astudio Gwyddorau Eigion?

Mae'r angen i adnabod a manteisio ar ffynonellau bwyd ac ynni newydd yn erbyn y cefndir o fygythiadau a gwyd yn sgil cynhesu byd-eang yn golygu bod gwyddorau eigion yn bwnc sydd â'i fryd ar y dyfodol. Ei ddiben yw adnabod problemau a dod o hyd i atebion.ÌýÌý

Mae deall sut mae'r cefnforoedd yn gweithio yn allweddol i ragfynegi sut bydd ein planed yn ymateb i gynhesu'r hinsawdd. Mae hefyd yn bwysig os ydym am harneisio'r potensial enfawr, sydd i raddau helaeth heb ei gyffwrdd, o ynni adnewyddadwy o'r llanw. Trwy astudio ffiseg y cefnfor, byddwch yn dysgu sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio ag elfennau eraill o System y Ddaear, yr atmospher a'r cryosffer. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arsylwi'r cefnfor, o longau ac o'r gofod, ac i ddatblygu modelau rhifiadol i ragfynegi'r cefnfor.Ìý

Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin â phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.

  • Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.
  • Rydym wedi ein lleoli o fewn ychydig fetrau i'r môr, sy'n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau mewn aberoedd, ar lan y môr ac ar y môr.
  • Mae gennym long ymchwil fordwyol gwerth £3.5m.

Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail.

Steve Backshall,  Darlithydd er Anrhydedd ac un o dîm addysgu Prifysgol Bangor; naturiaethwr, fforiwr a chyflwynydd

[0:03] Mor, mor gyffrous! Mae hi’n grêt cwrdd gyda Steve! Mae’n gyfle mor grêt i hyd yn oed cael gweldÌý

[0:09] y Fenai mewn ffordd wahanol hefyd.

[0:12] Un o’r rhesymau i mi ddewis dod i Fangor oedd i gael bod mewn ardal fel hon,Ìý

[0:16] Does dim ffordd well o dreulio’r prynhawn i ddweud y gwir!Ìý

[0:23] Rydym yn mynd allan i’r afon Menai Fenai ac yna i Ynys Seiriol gyda chriw o fyfyrwyr gwyddorau naturiolÌý

[0:28] i gael blas o’r gorau sydd gan yr ardal yma i’w chynnig.Ìý

[0:47] Wel, hyd yma rydym wedi gweld y gorau o’r bywyd gwyllt o’r rhan yma o’r byd, yn enwedig yr adar. Ìý

[0:53] Mae’r ysgafelloedd yn dew, bron i bob centimedr, wedi ei orchuddio gyda heligogod, gwylanodÌý

[0:59] ac rydym wedi gweld mulfrain gwyn ac wrth gwrs y palod (puffins).

[01:02] Mae’n debyg mai dyma pam wnes i benderfynu creu perthynas gyda Bangor.Ìý

[01:06] Oherwydd yr hyn rydych yn ei weld yn y fan yma. Gall unrhyw sefydliad fuddsoddi mewn isadeiledd.

[01:11] Gall unrhyw sefydliad gael adeiladau mwy, neu gael mwy o addysgu.

[01:14] Ond does dim buddsoddiad yn y byd all gael hyn.Ìý

[01:18] Hyn ar ein trothwy, sy'n gwneud Bangor y lle gorau i astudio’r gwyddorau naturiol.

[01:30] Mae’n wych. Yn amlwg dim ond jyst y cwmni gyda Steve yma, mae gweld y bywyd gwyllt, y gwylanod coes-ddu...Ìý

[01:37] y mulfrain, y morloi a’r math yna o beth. Hollol ryfeddol a phrofiad unigryw iawn.

[01:41] Mae Steve yn ddyn clên iawn. Ia, hollol anhygoel. Does unman gwell i fod.Ìý

[01:46] Mae hi wedi bod yn brynhawn anhygoel. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy ergydio ychydig ac yn rynllyd.

[01:51] Ond, i allu dod allan yma, a mi allwch weld y Brifysgol o fan hyn.

[01:56] Gallwch weld y neuaddau preswyl o fama. I fod yn fyfyriwr yma, a meddwl y gallwch orffen astudioÌý

[02:01] a dod lawr yma a padlfyrddio neu gaiacio allan ar y Fenai a chael hyn fel ffordd o leihau straen arholiadau.

[02:08] Mae hynna yn hollol anhygoel i mi.

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maesÌýastudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

Image of Wil Chidley

Proffil Myfyrwyr Wil Chidley

Daeryddiaeth Ffisegol ac Eigioneg

Dewisais ddod i astudio ym Mangor oherwydd ei bod yn adran sy’n cael ei hadnabod am ei llwyddiant yn ryngwladol, a honno ar stepen fy nrws.

Taith rithiol 360 o'n cyfleusterau

Cowt Canolfan Fôr CymruÌý

Mae Canolfan Fôr Cymru’n cyfrannu at effaith ehangach ymchwil Ysgol Gwyddorau’r Eigion. Mae'n cefnogi'r economi las trwy gysylltu ymchwil academaidd â chymwysiadau yn y byd go iawn.

Cyntedd Canolfan Fôr CymruÌý

Agorwyd Canolfan Fôr Cymru gan y Brenin Siarl, Tywysog Cymru ar y pryd, yn 2016. Wrth edrych i fyny, gallwch weld gwaith celf o fywyd y môr sydd wedi'u creu yn defnyddio poteli plastig a daflwyd ymaith, sy'n amlygu cymaint o bla yw gwastraff plastig yn ein cefnforoedd.

Balconi Canolfan Fôr CymruÌý

Rydym yn ffodus iawn o fod wedi’n lleoli ar lan y Fenai yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, gyda golygfeydd dros y dŵr tuag at Eryri.

Ystafell seminar Sarah JonesÌý

Ystafell seminar Sarah Jones, lle byddwch yn ymuno â ni i glywed am ein hymchwil ddiweddaraf sydd gyda’r gorau yn y byd.

Ystafell gynadledda Canolfan Fôr CymruÌý

Dyma un o'n hystafelloedd cynadledda, lle y byddwch efallai’n ymuno â ni mewn tiwtorialau, trafodaethau neu gyfarfodydd eraill.

Acwariwm dŵr oerÌý

Mae’r acwariwm dŵr oer hwn yn cefnogi ein hymchwil a’n haddysgu gydag amrywiaeth o rywogaethau lleol. Mae ein holl acwaria wedi'u cymeradwyo gan y Swyddfa Gartref ac mae’r dŵr môr wedi'i hidlo'n uniongyrchol o’r Fenai.

Adeilad Craig MairÌý

Mae llawer o’n haddysgu a’n hymchwil yn digwydd yn adeilad Craig Mair sy’n cynnwys ein labordy addysgu mwyaf ar gyfer astudiaethau israddedig.

Labordy gwaddodegÌý

Mwd, clai, tywod a silt o bob lliw a llun! Rydym yn hidlo, didoli, dadansoddi a dysgu am waddodion y môr yn y labordy gwaddodion. Mae'r gwaddodion yn amrywio o samplau craidd a gasglwyd ymhell o dan wyneb y ddaear, i dywod o draethau cyfagos.

Labordy hydrodynamigÌý

Mae ein labordy hydrodynamig yn gyfleuster arbrofol ar gyfer efelychu symudiadau dŵr a gwaddodion gan donnau, tswnamïau, y llanw, afonydd a cherhyntau dwysedd. Mae gennym dri chafn arbrofol, y mwyaf ohonynt yn 10m o hyd gyda generadur tonnau.

Ystafelloedd ôl-radd Dennis Crisp

Fe’u gelwir yn Ystafelloedd Dennis Crisp ar ôl un o'r gwyddonwyr a sefydlodd yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Mae'r ystafelloedd wedi'u neilltuo ar gyfer myfyrwyr ein rhaglenni Meistr ac maent yn cynnwys labordai, ystafelloedd seminar, ardaloedd addysgu, ystafell gyfrifiaduron ac ystafell gyffredin i fyfyrwyr ôl-radd.

BalconiÌý

Mae'r balconi y tu allan i'r prif labordy addysgu yn lle dymunol i gymryd seibiant a mwynhau'r golygfeydd.

Y prif labordy addysguÌý

Mae gwyddoniaeth dda yn dechrau yn y labordy. Dyma ein labordy addysgu pwrpasol lle byddwch, fel myfyriwr, yn cael sesiynau ymarferol bioleg môr ac eigioneg yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Mae ein sesiynau ymarferol yn rhoi llawer o sgiliau i chi, gan gynnwys sgiliau anatomi, ffisioleg, ymddygiad anifeiliaid ac adnabod rhywogaethau.

Labordy diwylliant algaiddÌý

Mae ein labordy diwylliant algaidd yn darparu llawer o'r cynhwysion craidd i gefnogi ein acwaria, ein haddysgu a’n hymchwil.

Ardal gorffwysÌý

Os ydych yn astudio gyda ni, gallwch ymlacio yma rhwng sesiynau.
Ìý

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau'r Eigion.Ìý

Ìý

Ìý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau'r Eigion llwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau'r Eigion ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Ìý

Ein Ymchwil o fewn Gwyddorau Eigion

Mae ymchwil Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn rhychwantu'r byd. Mae ein hymchwil, sydd gyda'r gorau yn y byd, yn ymdrechu i adnabod achosion enciliad yr iâ ym Môr yr Arctig ac effaith cynhesu byd-eang a llygredd plastig ar riffiau cwrel trofannol. Mewn cydweithrediad ag Arolwg Antarctig Prydain ac eraill rydym yn ddiweddar wedi canfod lefelau o ficroplastigion sy'n peri pryder mewn ffiordiau dilychwin yn yr Antarctig.Ìý

Mae ein hymchwil yn astudio hanes y Ddaear. Rydym wedi datblygu technegau i feintioli hinsoddau'r gorffennol ar y blaned ac yn defnyddio modelau rhifiadol cymhleth i edrych ar y prosesau allweddol a oedd yn gyrru'r hinsoddau hynny. Yn ddiweddar rydym wedi nodi 'uwch gylchred llanw' sy'n gysylltiedig â drifft cyfandirol ac rydym bellach yn deall sut y gallai'r llanw fod wedi dylanwadu ar esblygiad bywyd ar y Ddaear. Rydym wedi gweithio ar y cyd â NASA yn archwilio rôl llanw'r môr yn esblygiad cynnar y blaned Fenws.

Rydym hefyd yn sefydliad blaenllaw mewn ymchwil i wyddor pysgodfeydd a chynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r llanw.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.